Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Amserlen ar gyfer ceisiadau am basbortau

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell y dylech ganiatáu chwe wythnos ar gyfer pasbort oedolyn cyntaf. Mae amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer ceisiadau eraill am basbortau, gan ddibynnu ar ba mor fuan yr ydych am deithio. Y cyngor gorau y gellir ei roi i chi yw y dylech wneud cais yn gynnar pryd bynnag y bo hynny'n bosib.

Caniatáu mwy o amser ar gyfer pasbortau oedolion cyntaf

Os ydych chi'n gwneud cais am eich pasbort oedolyn cyntaf, bydd angen i chi ganiatáu mwy o amser nag arfer, gan y bydd angen i chi fynd i gyfweliad. Darllenwch 'Cyfweliadau am basbort' i gael mwy o wybodaeth.

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell eich bod yn cyflwyno eich cais chwe wythnos cyn y mae angen i chi deithio. Peidiwch â gwneud dim trefniadau teithio nes i chi gael eich pasbort newydd

Pryd i adnewyddu eich pasbort

Pan fyddwch yn adnewyddu pasbort, ni fydd yn rhaid i chi aros nes bydd eich pasbort yn dod i ben. Gallwch wneud cais unrhyw adeg. Os oes unrhyw amser ar ôl ar eich hen basbort, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei ychwanegu at eich pasbort newydd, mewn misoedd cyfan, hyd at naw mis. Ni all y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau drosglwyddo mwy na naw mis o'ch hen basbort i'ch pasbort newydd.

Gallwch adnewyddu eich pasbort pryd bynnag y dymunwch, ond bydd yn rhaid i chi dalu'r ffi lawn. Ni ellir rhoi ad-daliad am unrhyw gyfnod na ddaeth i ben ar eich hen basbort.

Amserlen ar gyfer gwneud cais

Nid yw'r amseroedd hyn yn berthnasol i basbortau oedolyn cyntaf. Dylech ganiatáu chwe wythnos ar gyfer ceisiadau am basbortau oedolyn cyntaf gan y bydd angen i chi fynd i gyfweliad fel arfer.

Ceisiadau ar-lein - tair wythnos

Mae'r canllaw tair wythnos hefyd yn berthnasol i ffurflenni cais a gyflwynir ar-lein.

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argraffu eich ffurflen ar ôl i chi ei llenwi ac yn anfon y copi papur atoch i'w lofnodi. Yn yr un modd â cheisiadau drwy'r post, nid yw'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn y cais yn swyddogol nes byddwch wedi llofnodi'r ffurflen bapur a'i dychwelyd atynt gyda'r dogfennau ategol.

Gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post - pythefnos

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael drwy rai canghennau Swyddfa'r Post. Dylai eich cais gymryd pythefnos o'r adeg pan fydd y gangen neu'r asiant yn derbyn y cais, ac eithrio gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus.

Nid yw'r gwasanaeth hwn wedi'i warantu a gall gymryd mwy o amser yn ystod adegau prysur. Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn eich cynghori i beidio â gwneud trefniadau teithio nes byddwch wedi cael eich pasbort newydd.

Rhoddir eglurhad manwl am y gwasanaeth yn 'Gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post'.

Gwneud cais personol mewn Swyddfa Basbort Ranbarthol - ceisiadau brys

Mae gwasanaethau wythnos Trac Cyflym ac undydd Premiwm ar gael mewn Swyddfeydd Pasbort Rhanbarthol. Dim ond am fathau penodol o gais y maent ar gael. Bydd angen i chi wneud apwyntiad ar gyfer defnyddio'r gwasanaethau hyn drwy'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000. Mae’r llinell ar agor saith niwrnod yr wythnos rhwng 7.00 am ac 11.00 pm.

Yn ystod cyfnodau prysur efallai na fydd yn bosib i chi gael apwyntiad ar fyr rybudd. Dylech ganiatáu o leiaf pythefnos ar gyfer dyddiad eich apwyntiad.

Uwchraddio eich cais os bydd eich cynlluniau'n newid yn sydyn

Os bydd eich cynlluniau teithio yn newid ar ôl i chi wneud cais am basbort, gallwch ofyn am uwchraddio i'r gwasanaeth undydd Premiwm (dim ond ar gyfer ceisiadau i adnewyddu). I ofyn am gael uwchraddio, neu i gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys y ffioedd ychwanegol, dylech ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000.

Efallai na fydd uwchraddio'n bosib bob amser yn ystod cyfnodau prysur.

Diogelu eich dogfennau

Mae'r dogfennau ategol yr ydych yn eu hamgáu gyda'ch cais yn werthfawr. Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn eich cynghori i anfon eich cais gan ddefnyddio gwasanaeth Cludiant Arbennig (Special Delivery) y Post Brenhinol. Fe'ch cynghorir hefyd i dalu £3 ychwanegol fel y caiff eich dogfennau eu dychwelyd atoch drwy'r gwasanaeth Cludiant Diogel (Secure Delivery).

Ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn talu iawndal am golli neu oedi o ganlyniad i ddefnyddio gwasanaethau post dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth y Post Brenhinol. I gael rhagor o fanylion am ffioedd postio a phasbortau ewch i 'Tabl o ffioedd pasbort, sut mae talu ac ad-daliadau'

Additional links

Llinell Gymorth Pasbortau

I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:

- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000

Allweddumynediad llywodraeth y DU