P'un a ydych yn teithio at ddibenion busnes neu hamdden, mae bob amser yn syniad da cyrraedd y maes awyr ar amser.
Gall gwybod beth i'w ddisgwyl a gadael digon o amser helpu i wneud eich taith yn ddi-drafferth.
Ceisiwch bacio pethau gwerthfawr a phethau y bydd eu hangen arnoch yn ystod y daith yn unig yn eich bag llaw. Bydd hyn yn arbed amser i chi wrth fynd drwy giatiau diogelwch y maes awyr. Cyn cychwyn:
Yn gyffredinol dylech anelu at gyrraedd y maes awyr:
Bydd angen i chi hefyd benderfynu ar y ffordd orau o gyrraedd y maes awyr. Gall parcio mewn meysydd awyr fod yn ddrud, felly efallai y byddai'n well gennych ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na char.
Ceir mesurau diogelwch ychwanegol ar waith yn holl feysydd awyr y DU, felly mae'n syniad da gadael digon o amser ar gyfer archwiliadau diogelwch. Bydd angen sgrinio eich holl fagiau llaw a gofynnir i chi gerdded drwy gât ddiogelwch. Byddwch yn barod i:
Tra'r ydych yn y lolfa ymadael, bydd sgriniau'n dangos pryd y bydd hi'n amser i chi fynd ar yr awyren. Cofiwch adael digon o amser i fynd o'r lolfa i'ch gât sy'n eich arwain at yr awyren.
Gallwch fynd ag unrhyw beth y byddwch yn ei brynu o'r siopau yn y lolfa ymadael (a elwir weithiau'n 'awyr agored') gyda chi ar yr awyren, gan gynnwys hylifau fel bwyd a diod ar gyfer eich taith. Pan fyddwch yn siopa yn y lolfa ymadael:
Mae'r trefniadau a amlinellir uchod ac ar y dudalen ar Hedfan a rheolau bagiau llaw yn berthnasol.
Mae aelod-wladwriaethau'r UE fel a ganlyn: Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Cyprus, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Groeg, Hwngari, Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden, y Deyrnas Unedig.
Bydd trefniadau lleol yn berthnasol.
Os byddwch yn gorfod newid awyren mewn unrhyw faes awyr yn yr UE yn ystod eich taith, mae cyfyngiadau arbennig yn berthnasol.
Ni allwch fynd â hylifau (gan gynnwys rhai di-dreth) drwy'r giatiau diogelwch yn eich maes awyr cysylltiol os nad:
Os ydych wedi prynu eitemau hylif o dros 100ml o feysydd awyr eraill neu ar awyrennau eraill bydd angen i'r rhain fynd i'ch bag sy'n cael ei gofrestru ar y daith gysylltiol.