Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cwyno am wasanaethau hedfan

Mae teithio awyr wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, a chyda mwy o deithwyr, mae cwynion yn anochel. Os oes gennych gŵyn am gwmni hedfan, am faes awyr neu am asiant teithio, mae ffyrdd i gwyno.

Cwyno am gwmnïau teithio neu am feysydd awyr

Os oes gennych gŵyn, y ffordd orau i'w datrys yw defnyddio'r broses ddau gam isod.

Siarad â staff y maes awyr/cwmni hedfan

Ceisiwch siarad â rhywun yn y maes awyr neu'r cwmni hedfan. Efallai y byddan nhw'n gallu datrys eich problem yn syth. Os na fydd modd iddyn nhw eich helpu, neu os ydych dal yn anfodlon, ceisiwch ddarganfod pwy sy'n gyfrifol am yr hyn a aeth o'i le. (Efallai nad y cwmni hedfan sydd ar fai.)

Cadwch gofnod o'r holl bobl y byddwch yn siarad â nhw, y dyddiadau, yr amseroedd, ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Gwneud eich cwyn ar bapur

Os na fydd siarad â staff yn datrys eich problem, y cam nesaf fydd cyflwyno cwyn ysgrifenedig i adran cysylltiadau â chwsmeriaid y cwmni hedfan, i drefnwr teithiau eich gwyliau pecyn neu i'r maes awyr (yn dibynnu ar ba wasanaethau y byddwch yn cwyno amdanynt).

Eglurwch yn fras beth aeth o'i le a dywedwch beth yr hoffech weld yn cael ei wneud am eich cwyn. Os ydych am hawlio iawndal, dywedwch hynny, a dywedwch faint o arian yr ydych chi'n ei ddisgwyl. Beth bynnag fyddwch chi'n ei ysgrifennu, byddwch yn rhesymol a chadwch at y ffeithiau.

Anfonwch gopïau o docynnau neu dderbynebau gyda'ch llythyr cyntaf, a chadwch y gwreiddiol. Os byddwch yn hawlio arian yn ôl, bydd y cwmni hedfan neu'r asiant teithio angen y tocynnau gwreiddiol yn y pen draw. Ond daliwch eich gafael arnynt hyd nes y cewch addewid ysgrifenedig y rhoddir eich arian yn ôl (oni bai fod modd i chi fynd at yr asiant teithio neu i swyddfa'r cwmni hedfan eich hun a chael eich arian yn ôl yn y fan a'r lle).

Cofiwch gadw copi o'r holl ohebiaeth.

Mynd â'ch cwyn ymhellach

Os ydych eisoes wedi gwneud cwyn ysgrifenedig i gwmni hedfan neu faes awyr, ond eich bod yn anfodlon gyda'r canlyniad, mae'n bosib y gall y Cyngor Defnyddwyr Trafnidiaeth Awyr (AUC) eich helpu. Dylech fod yn ymwybodol nad oes ganddyn nhw'r pŵer i orfodi darparwyr gwasanaeth i dderbyn eu barn.

Os hoffech ysgrifennu at AUC, sicrhewch eich bod yn cynnwys copïau o'r holl ohebiaeth a fu rhyngoch chi a'r cwmni hedfan neu'r maes awyr.

Cwynion am drefnwyr teithiau neu asiantau teithio

Os byddwch wedi cwyno wrth yr asiant neu'r trefnwr dan sylw ond nad ydych yn fodlon gyda'r ymateb, holwch i weld a yw'r cwmni yn aelod o gymdeithas fasnachol, gan fod gan y rhain weithdrefnau cyflafareddu ar gyfer cwynion cwsmeriaid.

Y ddwy brif gymdeithas fasnach yw'r Gymdeithas Trefnwyr Teithiau Annibynnol (AITO) a Chymdeithas Asiantau Teithio Prydain (ABTA).

Ni all y Cyngor Defnyddwyr Trafnidiaeth Awyr helpu gyda chwyn yn erbyn trefnwr taith neu asiant teithio.

Cwynion heb eu datrys

Mae'r Gymdeithas Trefnwyr Teithiau Annibynnol (AITO) a Chymdeithas Asiantau Teithio Prydain (ABTA) yn cynnig gwasanaeth datrys anghydfod annibynnol lle bydd trydydd parti'n ceisio canoli'n gyflym mewn anghydfodau anodd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU