Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwasanaethau hedfan y DU

Mae gwasanaethau hedfan y DU yn cynnwys nifer o wasanaethau unigol, a ddarperir gan weithredwyr maes awyr, cwmnïau teithio a chwmnïau hedfan yn ogystal â chyrff y llywodraeth. Caiff meysydd awyr eu rheoli gan wahanol grwpiau yn dibynnu ar y gweithgareddau dan sylw.

Prif feysydd awyr y DU a'u cyfrifoldebau

Mae'r BAA (Awdurdod Maes Awyr Prydain gynt) yn berchen ac yn rhedeg saith maes awyr ym Mhrydain: Heathrow Llundain, Gatwick Llundain, Stansted Llundain, Aberdeen, Caeredin, Glasgow a Southampton.

O fewn y meysydd awyr hyn, mae'r cwmnïau hedfan yn gyfrifol am:

  • arwyddo i mewn
  • trin bagiau (o arwyddo i mewn hyd at eu trosglwyddo yn ôl i chi ar ben y daith)
  • cargo
  • paratoi'r awyren a rhoi tanwydd ynddi
  • cael teithwyr ar yr awyren (gan gynnwys y rheini a chanddynt anghenion arbennig)
  • diogelwch teithwyr
  • arlwyaeth ar yr awyren

Fodd bynnag, gall llawer o gwmnïau hedfan roi gwasanaethau megis trin bagiau ac arlwyaeth allan dan gontract.

Cyllid a Thollau EM sy'n gyfrifol am fewnforio/allforio nwyddau.

Yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo yn y Swyddfa Gartref sy'n gyfrifol am reoli pasbortau a materion sy'n ymwneud â lloches.

Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol (NATS) sy'n gyfrifol am reoli traffig awyr uwchben Prydain.

Mae gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg gwasanaethau i'r meysydd awyr ac oddi yno.

Rheoleiddio cwmnïau hedfan a siwrneiau awyr

Yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yw rheoleiddiwr hedfan y DU, sy'n rheoli holl lwybrau a theithiau awyrennau ym meysydd awyr y DU. Mae'r CAA yn rheoli cwmnïau awyrennau, meysydd awyr a NATS a hefyd yn gyfrifol am bennu costau meysydd awyr ym meysydd awyr Llundain.

Y Gymdeithas Trafnidiaeth Awyr Genedlaethol (IATA) yw'r corff llywodraethu sy'n rheoleiddio trafnidiaeth awyr genedlaethol.

Rheoliadau diogelwch newydd

Cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth gyfyngiadau newydd ar fagiau llaw ym mis Tachwedd 2006. Mae'r rheoliadau'n nodi beth y gallwch fynd trwy'r giatiau diogelwch gyda chi a beth sydd wedi'i wahardd ac maent yn berthnasol i bawb sy'n teithio drwy feysydd awyr y DU. Mae'r rheoliadau yn fwy llym nag oeddent yn y gorffennol felly gallai gymryd mwy o amser i chi fynd drwy'r giatiau diogelwch.

Ewch i 'Hedfan a rheolau bagiau llaw' i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych yn teithio i UDA, mae cyfyngiadau hefyd ar yr hyn y gellir ei brynu ar ôl i chi fynd trwy'r giatiau diogelwch ac ar yr awyren.

Archebu a phrynu tocynnau

Nid yw'r prisiau y mae cwmnïau awyrennau yn eu codi yn cael eu rheoleiddio gan y llywodraeth a gallant amrywio llawer. Mae bob amser yn syniad da edrych o gwmpas.

Mae sawl ffordd o archebu seddi ar awyren:

  • trwy'r cwmni hedfan ei hun
  • trwy asiantau teithio
  • wyneb yn wyneb
  • dros y ffôn
  • dros y rhyngrwyd

Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau hedfan yn rhestru trethi a thaliadau megis treth tanwydd a Threth Teithwyr Awyr ar wahân i'r pris sylfaenol.

Mae IATA yn anelu at gyhoeddi ei holl dicedi yn electronig (fel 'e-dicedi') yn y dyfodol agos.

Eich hawliau fel teithiwr

Fel teithiwr, rydych wedi'ch gwarchod rhag colli arian os bydd trefnwr teithiau'n mynd i'r wal, cyn belled ag y bydd eich gwyliau wedi'i ddiogelu gan Drwyddedwyr Trefnwyr Teithio Awyrennau (ATOL).

Bydd ATOL yn rhoi arian yn ôl i chi os bydd y cwmni'n mynd i'r wal cyn eich gwyliau, neu bydd yn trefnu i chi gael gorffen eich gwyliau a hedfan gartref os byddwch chi eisoes dramor.

Os byddwch yn hedfan o unrhyw faes awyr yr UE neu gydag unrhyw gwmni hedfan yr UE ac y bydd eich awyren wedi gwerthu gormod o docynnau, neu wedi'i dal yn ôl neu ei chanslo, efallai y bydd gennych fwy o hawliau nag a sylweddolwch. Gellir cael gwybodaeth am hyn ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Trafnidiaeth Awyr (AUC).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU