Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diogelwch wrth deithio mewn awyren

Gall ychydig o gynllunio o flaen llaw wneud eich siwrnai yn fwy diogel a chyffyrddus. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod ynghylch peryglon iechyd, cyfarpar a rheoliadau bagiau.

Gofalu am eich iechyd

Nid oes unrhyw dystiolaeth wyddonol sy'n cysylltu systemau aerdymheru awyren â lledaenu afiechydon. Bydd clefydau heintus, fel annwyd cyffredin, yn debygol o gael eu lledaenu wrth eistedd neu sefyll yn agos i berson heintiedig, un ai cyn hedfan, ar ôl hedfan, neu yn ystod y daith ei hun. Ceir ffilteri aer yn y rhan fwyaf o awyrennau, a bydd yr aer o fewn y caban yn cael ei newid bob tri i saith munud.

Er y bydd amgylchedd y caban yn foddhaol i'r rhan fwyaf o deithwyr, os oes gennych glefyd difrifol ar yr ysgyfaint dylech geisio cyngor meddygol gan eich Meddyg Teulu neu gan wasanaeth meddygol cwmni hedfan o'ch dewis, yn enwedig cyn cychwyn ar deithiau hir.

Mae diddordeb hefyd wedi bod yn y cyswllt posib rhwng thrombosis gwythiennau dwfn (DVT) a hedfan. Aros yn llonydd am gyfnod hir yw'r perygl mwyaf cyffredin a gellir ei gysylltu ag unrhyw fath o deithio am amser hir, boed hynny mewn awyren, mewn car, ar fws neu ar drên. Tarwch olwg ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Awyr (AUC) am fwy o wybodaeth.

Defnyddio cyfarpar electronig

Awgryma tystiolaeth ymchwil y gallai defnyddio ffôn symudol a chyfarpar electronig symudol eraill, megis gemau cyfrifiadurol, ar awyren ymyrryd â'r systemau cyfathrebu a llywio. Felly, er mwyn diogelwch teithwyr, rhaid diffodd ffonau symudol fel na fyddant ymlaen trwy gydol y daith, ac ni ddylid defnyddio cyfarpar electronig pan fo'r awyren yn codi ac yn glanio.

Eitemau na chewch eu cario ar awyren

Mae nifer o eitemau na chewch eu cario mewn bagiau llaw, megis cyllyll, sisyrnau torri ewinedd a ffeiliau ewinedd. Gellir llwytho rhestr oddi ar wefan BAA o’r eitemau y gallwch fynd ar yr awyren gyda chi a beth sydd wedi'i wahardd. Gellir hefyd cael gwybodaeth fanylach ar wefan yr Adran Drafnidiaeth.

Am wybodaeth cyffredinol ynghylch bagiau llaw gweler ‘Rheolau bagiau llaw ar gyfer teithio mewn awyrennau’.

Cael cyngor diogelwch

Dan ei gynllun gwarchod ATOL, mae'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi cyhoeddi taflen o'r enw ‘Teithio'n ddiogel’, sy'n rhoi cyngor am faterion fel yfed alcohol ar awyren, sut i ymddwyn a gweithdrefnau'r awyren. Gallwch lwytho copi o'r adran ATOL ar wefan yr Awdurdod Hedfan Sifil.

Ymchwilio i ddamweiniau awyr

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) yn ymchwilio i ddamweiniau sifil a digwyddiadau difrifol er mwyn atal damweiniau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. Nid yw’r AAIB yn penderfynu pwy sydd ar fai na phwy sy'n gyfrifol.

Gall Adran Actiwari'r Llywodraeth (GAD) roi cyngor am iawndal, ac mae nifer o grwpiau cefnogi fydd yn darparu cymorth ymarferol a chefnogaeth emosiynol, er enghraifft, ar gyfer y rhai hynny sydd wedi cael profedigaeth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU