Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rheolau hedfan a bagiau llaw

Mae mesurau diogelwch mwy caeth ar waith yn holl feysydd awyr y DU, gyda rheolau llym ar beth y cewch ei gario yn eich bag llaw, a beth na chewch ei gario yn eich bag llaw.

Mae'n bwysig eich bod yn cofio hyn wrth bacio er mwyn osgoi oedi diangen wrth fynd drwy'r gatiau diogelwch yn y maes awyr.

Maint a math o fag llaw a ganiateir

Os nad ydych yn siŵr, holwch eich cwmni hedfan

Bagiau y byddwch yn mynd â hwy gyda chi ar yr awyren yw bagiau llaw, a bagiau a gyflwynir i'w cofrestru yw bagiau a gofrestrwyd.

Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi pennu na chaiff bag llaw fod yn fwy na 56cm x 45cm x 25cm, ac mae hyn yn cynnwys yr olwynion, yr handlen a'r pocedi allanol. Ond, mae'n bosib na fydd rhai cwmnïau hedfan yn caniatáu bagiau mor fawr â hynny, felly holwch eich cwmni hedfan yn gyntaf.

Mae'n bosib hefyd y bydd gan gwmnïau hedfan eu rheolau eu hunain ynghylch nifer y bagiau y cewch fynd â hwy gyda chi ar yr awyren. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, byddai'n well i chi gysylltu â'ch cwmni hedfan.

Gliniaduron/eitemau trydanol

Cewch gario eitemau trydanol (megis gliniadur a sychwr gwallt) yn eich bagiau llaw, ond bydd angen eu tynnu o'r bag a'u sgrinio ar wahân.

Offer meddygol hanfodol

Cewch ddod ag offer meddygol os ydynt yn hanfodol ar gyfer eich siwrnai. Caiff yr offer eu sgrinio ar wahân a rhaid bod gennych ddogfennau ategol gan weithiwr meddygol cymwys ar gyfer yr offer, megis llythyr gan eich meddyg.

Eitemau eraill

Fel arfer, cewch fynd â phramiau, cymhorthion cerdded a chadeiriau olwyn gyda chi ar yr awyren, ond bydd angen eu sgrinio yn y gatiau diogelwch yn gyntaf.

Eitemau mawr

Ni chewch fynd ag unrhyw fag llaw sy'n fwy na 56cm x 45cm x 25cm gyda chi ar yr awyren. Bydd yn rhaid i chi ei gyflwyno fel bag i'w gofrestru, ac eithrio offerynnau cerdd.

Offerynnau cerdd

Os ydych chi'n bwriadu teithio gydag offeryn cerdd mawr, mae'n syniad da i chi gysylltu â'ch cwmni hedfan cyn archebu tocynnau, oherwydd efallai y bydd angen i chi wneud trefniadau arbennig, megis prynu sedd ychwanegol. Bydd angen i unrhyw offeryn cerdd gael ei sgrinio ar wahân.

Mynd â hylifau yn eich bag llaw

Lle bo'n bosib dylech bacio hylifau yn y bagiau a gaiff eu cofrestru, gan fod cyfyngiadau ar faint o hylifau y cewch fynd gyda chi yn eich bag llaw.

Mae hylifau'n cynnwys:

  • pob diod, gan gynnwys dŵr, cawl a syrypau
  • colur a phethau ymolchi, gan gynnwys hufenau, trwythau, olewau, persawrau, masgara a minlliw
  • chwistrellau, gan gynnwys hufen eillio, chwistrell gwallt a diaroglydd chwistrell
  • pastau, gan gynnwys past dannedd
  • geliau, gan gynnwys gel gwallt a gel cawod
  • hylif lensys cyffwrdd
  • unrhyw doddiannau ac eitemau eraill o'r un ansawdd

Os bydd angen rhai hylifau arnoch yn ystod y daith, gallwch fynd â nhw ar yr awyren ond dim ond mewn mesurau cyfyngedig, fel a ganlyn:

  • ni chaiff cynwysyddion ddal mwy na 100ml
  • mae'n rhaid cario'r cynwysyddion mewn un bag plastig tryloyw y gellir ei ail-selio, ac na all ddal mwy na litr ac sydd tua 20cm x 20cm
  • mae'n rhaid i'r cynnwys ffitio yn gyfforddus yn y bag fel y gellir ei selio
  • ni chewch glymu'r bag na gwneud cwlwm ynddo
  • dim ond un o'r bagiau hyn y caiff pob teithiwr ei gario
  • rhaid cyflwyno'r bag i'w archwilio yng ngatiau diogelwch y maes awyr

Ni chewch fynd â chynwysyddion mwy na 100ml (ac eithrio meddyginiaethau hanfodol) drwy'r gatiau diogelwch, hyd yn oed os nad ydynt ond yn hanner llawn.

Tanwyr

Dim ond un taniwr y caiff pob unigolyn ei gario ar y daith. Caiff tanwyr eu hystyried yn hylifau, a dylid eu rhoi yn y bag plastig neu eu sgrinio ar wahân. Rhaid i chi gadw eich taniwr arnoch drwy gydol y daith.

Mae'n bwysig iawn nad ydych:

  • yn ei roi yn eich bag i'w gofrestru
  • yn ei roi yn ôl yn eich bag llaw ar ôl iddo gael ei sgrinio

Meddyginiaethau hanfodol, gan gynnwys mewnanadlyddion a bwydydd hylif

Cewch gario mwy na 100ml o feddyginiaethau hanfodol yn eich bag llaw, ond bydd angen y canlynol arnoch:

  • caniatâd ymlaen llaw gan y cwmni hedfan a'r maes awyr gadael
  • dogfennau ategol gan weithiwr meddygol proffesiynol cymwys (e.e. llythyr gan eich meddyg neu bresgripsiwn)

Peidiwch â mynd â mwy na fydd ei angen arnoch ar gyfer eich siwrnai. Gallwch roi cyflenwadau ychwanegol a mwy o feddyginiaeth yn eich bagiau sydd wedi'u cofrestru.

Bwyd a llaeth babanod

Cewch fynd â bwyd babi, llaeth babi a dŵr wedi'i sterileiddio gyda chi yn eich bag llaw. Mae hyn yn cynnwys:

  • llaeth soia i fabanod
  • dŵr wedi'i sterileiddio ar gyfer y babi (rhaid ei gadw mewn potel babi)
  • fformwla, llaeth o'r fron neu laeth buwch sy'n benodol ar gyfer babanod
  • gwahanol fathau o fwyd babi

Cewch fynd â digon ar gyfer y siwrnai – gall hyn fod yn fwy na 100ml mewn rhai achosion. Gellir gofyn i'r oedolyn sy'n cario'r bwyd babi neu'r llaeth ei ddilysu drwy ei flasu.

Hylifau a brynir yn y maes awyr

Cewch fynd ag unrhyw hylifau a brynwyd ar yr awyren ar ôl mynd drwy'r gatiau diogelwch, gan fod yr eitemau hyn yn dilyn proses sgrinio wahanol. Mae hyn yn cynnwys dŵr potel, gwinoedd a gwirodydd, persawrau a cholur o unrhyw faint.

Allweddumynediad llywodraeth y DU