Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diogelwch wrth deithio mewn awyren

Gall cynllunio rywfaint o flaen llaw wneud eich siwrnai'n fwy diogel a chyfforddus. Dyma'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi ynghylch peryglon iechyd a rheoliadau'n ymwneud â chyfarpar a bagiau.

Gofalu am eich iechyd

Nid oes unrhyw dystiolaeth wyddonol sy'n cysylltu systemau aerdymheru awyren â lledaenu afiechydon. Bydd clefydau heintus, fel annwyd cyffredin, yn debygol o gael eu lledaenu wrth eistedd neu sefyll yn agos at berson heintiedig, un ai cyn hedfan, ar ôl hedfan, neu yn ystod y daith ei hun. Ceir ffilteri aer yn y rhan fwyaf o awyrennau, a bydd yr aer o fewn y caban yn cael ei newid bob tri i saith munud.

Mae'r aer yn amgylchedd y caban yn iawn ar gyfer y mwyafrif o'r teithwyr. Ond os ydych yn dioddef yn ddifrifol o glefyd yr ysgyfaint, dylech gael cyngor gan eich meddyg teulu neu gan wasanaeth meddygol y cwmni hedfan, yn enwedig cyn cychwyn ar deithiau hir.

Dangoswyd llawer o ddiddordeb wedi bod yn y cyswllt posib rhwng thrombosis gwythiennau dwfn (DVT) a hedfan. Y ffactor risg mwyaf cyffredin ar gyfer DVT yw eistedd yn llonydd, a gall hynny fod yng nghyswllt unrhyw fath o daith hir, boed yn yr awyr, mewn car, ar fws neu ar drên. Tarwch olwg ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Trafnidiaeth Awyr (AUC) am fwy o wybodaeth.

Defnyddio cyfarpar electronig

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai defnyddio ffonau symudol a chyfarpar electronig eraill megis gemau cyfrifiadurol ar awyren ymyrryd â systemau cyfathrebu a llywio yr awyren. Am resymau diogelwch, diffoddwch eich ffôn symudol yn ystod y daith os gwelwch yn dda, a pheidiwch â defnyddio unrhyw gyfarpar electronig eraill pan fo'r awyren yn codi ac yn glanio.

Eitemau na chewch eu cario ar awyren

Mae nifer o eitemau na chewch eu cario mewn bagiau llaw, megis cyllyll, sisyrnau torri ewinedd a ffeiliau ewinedd. Gallwch gael gwybodaeth fanwl ar ‘Eitemau peryglus a chyfyngedig’.

Am wybodaeth gyffredinol ar fagiau llaw, gweler 'Rheolau hedfan gyda bagiau llaw'.

Cael cyngor diogelwch

Dan ei gynllun gwarchod ATOL, mae'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi cyhoeddi taflen o'r enw 'Teithio'n Ddiogel'. Rhydd y daflen gyngor am faterion sy'n ymwneud â hedfan - megis yfed alcohol ar yr awyren, sut i ymddwyn a gweithdrefnau'r awyren. Gallwch lwytho copi oddi ar wefan Yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA).

Ymchwilio i ddamweiniau awyr

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) yn ymchwilio i ddamweiniau sifil a digwyddiadau difrifol. Nid yw'r AAIB yn penderfynu pwy sydd ar fai na phwy sy'n gyfrifol ond yn hytrach yn ceisio atal damweiniau tebyg rhag digwydd eto.

Gall Adran Actiwari'r Llywodraeth (GAD) roi cyngor am iawndal, a cheir nifer o grwpiau cefnogi a fydd yn darparu cymorth ymarferol a chefnogaeth emosiynol, er enghraifft, ar gyfer y rhai hynny sydd wedi cael profedigaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU