Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tocynnau mantais a theithio ar fysiau am ddim

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn neu'n 'gymwys yn sgil anabledd', efallai fod gennych hawl i deithio am ddim ar fysiau lleol ar adegau tawel yn unrhyw le yn Lloegr. Yma cewch wybod mwy am deithio am ddim ar fysiau ac am y tocynnau mantais a gynigir i blant a phobl ifanc gan rai awdurdodau lleol.

Teithio ar fws am ddim unrhyw le yn Lloegr ar gyfer pobl sydd dros 60 oed a phobl anabl

Ers mis Ebrill 2008, mae gan bawb sy'n byw yn Lloegr ac sydd:

  • dros 60 neu
  • yn 'gymwys yn sgil anabledd'

hawl i gael cerdyn bws blynyddol rhad ac am ddim sy'n rhoi hawl i deithio am ddim ar fysiau lleol unrhyw le yn Lloegr yn ystod adegau tawel (cyn hyn, dim ond yn eich ardal leol y byddech wedi cael teithio am ddim). 'Adegau tawel' yw unrhyw adeg rhwng 9.30am ac 11pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a drwy'r dydd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau cyhoeddus.

Efallai y bydd awdurdodau lleol yn cynnig manteision eraill i'w preswylwyr, megis teithio am ddim ar amseroedd heblaw adegau tawel, neu deithio ar drên neu dram am bris gostyngol, ond dim ond yn eu hardal leol y bydd y manteision hyn ar gael ac nid ledled Lloegr.

Os oes gennych gwestiynau ynghylch sut i gael eich cerdyn bws, dylech gysylltu â'ch darparwr tocynnau lleol.

Gwasanaethau nad ydynt wedi eu cynnwys

Ar 1 Ebrill 2009, cafwyd esboniad cliriach o'r rheolau ynghylch ar ba wasanaethau y gallwch ddefnyddio eich cerdyn bws. Gallwch ddefnyddio'ch cerdyn bws ar bob gwasanaeth bws lleol yn Lloegr, ond fel rheol ni allwch ei ddefnyddio ar y mathau canlynol o wasanaethau:

  • gwasanaethau lle gellir archebu'r rhan fwyaf o seddi (ee bysiau moethus)
  • gwasanaethau dros dro sy'n rhedeg am llai na chwe wythnos (ee bysiau gwennol ar gyfer digwyddiadau arbennig)
  • gwasanaethau twristiaeth neu wasanaethau ar gerbydau o ddiddordeb hanesyddol (ee teithiau ar fws heb do)
  • gwasanaethau trên wrth-gefn
  • gwasanaethau lle mae costau ychwanegol (ee lluniaeth neu barcio car) wedi'u cynnwys yn y pris

Mae tocyn mantais hanner pris ar gyfer bysiau moethus ar gael ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl, ac mae nifer o gwmnïau bysiau yn cynnig y tocyn hwn. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r cwmni bws yn uniongyrchol.

I gael gwybodaeth fanwl am y newidiadau i docynnau mantais ar gyfer bysiau, gweler gwefan yr Adran Drafnidiaeth.

Beth yw ystyr 'person cymwys yn sgil anabledd'?

Mae person sy'n gymwys yn sgil anabledd yn golygu unigolyn:

  • dall neu rannol ddall
  • hollol fyddar neu drwm iawn ei glyw
  • heb leferydd
  • ag anabledd, neu sydd wedi dioddef anaf, sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar ei allu i gerdded
  • heb freichiau neu â diffyg defnydd hirdymor yn y ddwy fraich
  • ag anabledd dysgu, neu
  • na fyddai'n cael trwydded i yrru cerbyd modur dan Ran III Deddf Traffig y Ffyrdd 1988 oherwydd adran 92 o'r Ddeddf (ffitrwydd corfforol) am resymau ar wahân i gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn gyson.

Sut i gael eich cerdyn bws os ydych chi'n byw y tu allan i Lundain Fwyaf

Os nad ydych eto wedi gwneud cais am gerdyn bws a fydd yn eich galluogi i deithio ym mhob rhan o Loegr, neu os mai newydd ddod yn gymwys ydych chi, bydd angen i chi wneud cais i'ch darparwr tocynnau lleol. Byddant yn gofyn i chi wneud y canlynol:

  • profi eich bod yn gymwys
  • profi eich bod yn byw yn eich ardal yn barhaol
  • darparu llun maint pasbort ar gyfer eich cerdyn newydd.

Sut i gael eich cerdyn bws os ydych chi'n byw yn Llundain Fwyaf

Os oes gennych 'Freedom Pass' hŷn byddwch wedi cael sticer wrth ei adnewyddu ar gyfer mis Ebrill 2008. Gallwch ddefnyddio'r tocyn gyda'r sticer yn Llundain ac ar gyfer teithio am ddim ar fysiau lleol yn ystod adegau tawelach yn unrhyw le yn Lloegr.

Os ydych chi'n gymwys ond nad oes gennych 'Freedom Pass', gallwch weld sut mae gwneud cais ar wefan 'Freedom Pass'.

Teithio am ddim ar fysiau yn Llundain i blant a phobl ifanc

Yn Llundain, caiff pawb sydd o dan 16 deithio am ddim ar fysiau a thramiau. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n byw yno a'r rhai nad ydynt yn byw yno. Bydd angen i blant 14-15 oed gael cerdyn llun Oyster er mwyn manteisio ar y cynnig.

Caiff pobl ifanc 16-17 oed (a rhai sy'n 18 oed) sydd mewn addysg amser llawn neu sydd ar gynllun dysgu seiliedig ar waith ac sy'n byw yn un o fwrdeistrefi Llundain deithio am ddim ar fysiau a thramiau ar draws rhwydwaith bysiau Llundain i gyd, gan gynnwys adrannau y tu allan i Lundain Fwyaf. Bydd arnoch angen cerdyn llun Oyster dilys er mwyn gallu teithio am ddim.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gael cerdyn llun Oyster ar wefan Transport for London (TfL).

Prisiau gostyngedig eraill

Bydd tocynnau bws am bris gostyngol, neu docynnau mantais bws, weithiau ar gael ar gyfer y canlynol:

  • pobl ifanc dan 18 oed
  • myfyrwyr mewn addysg amser llawn

Mae rhai cwmnïau hefyd yn gadael i'r canlynol deithio ar fysiau moethus am hanner y pris:

  • pobl dros 60 oed
  • teithwyr anabl

Bydd gan eich awdurdod lleol fanylion am gynlluniau trafnidiaeth lleol yn eich ardal - gallwch gysylltu â hwy drwy eich cyngor lleol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU