Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwasanaethau bws a bws moethus

Yma, gallwch ddod o hyd i'ch gwasanaeth bws agosaf, y mathau o docynnau y gallwch eu prynu a sut i osgoi cael tocyn teithio cosb yn Llundain. Gallwch hefyd gael gwybod sut i logi bws moethus neu fws cymunedol.

Mathau o gynlluniau tocynnau lleol

Yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU, gallwch brynu nifer o wahanol fathau o docynnau bws a bws moethus. Gallai'r rhain gynnwys tocynnau ar gyfer teithiau unigol i gardiau diwrnod, wythnos a mis, yn ogystal â chardiau i fyfyrwyr neu gardiau i bobl dros 60.

Dod o hyd i'ch gwasanaeth bws lleol

Gallwch ddod o hyd i'ch gwasanaeth bws agosaf pan fyddwch yn cynllunio'ch siwrnai gan ddefnyddio'r cynlluniwr siwrnai ar-lein.

Osgoi cael tocyn teithio cosb yn Llundain

Yng nghanol Llundain, mae'n rhaid i chi brynu'ch tocynnau o beiriannau mewn arosfannau bysiau cyn i chi fynd ar y bws. Oni fyddwch yn prynu tocyn dilys, mae'n bosibl y byddwch yn cael tocyn cosb neu orfod rhoi eich manylion cyswllt ar gyfer cael dirwy bosibl.

Ceir gwybodaeth ynghylch pob gwasanaeth drafnidiaeth gyhoeddus yng nghanol Llundain ar wefan Transport for London (TfL).

Llogi bws moethus

Mae rhai cwmnïau'n llogi bysiau moethus ar gyfer defnydd preifat. Gallwch chwilio ar wefan Urdd Cwmnïau Bysiau Moethus Prydain am gwmnïau bysiau moethus.

Bysiau cymunedol/bysiau mini

Ceir nifer o gynlluniau bws sy'n cael eu rhedeg gan fudiadau gwirfoddol neu ddi-elw ac sy'n helpu pobl i deithio yn rhad ac yn hwylus. Mae ganddynt hawlenni arbennig sy'n golygu nad oes rhaid iddynt lynu wrth lawer o'r rheolau cerbydau gwasanaeth cyhoeddus arferol. Ceir manylion ar sut y gellir cael hawlen ar wefan Yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA).

Gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol am fwy o wybodaeth am fysiau cymunedol yn eich ardal.

Allweddumynediad llywodraeth y DU