Mae rhai pobl yn teimlo’n anniogel wrth deithio ar drên os bydd torf o bobl neu os byddant yn teithio gyda'r nos, pan mae’n bosib y bydd gorsafoedd yn ddi-griw. Dylai’r awgrymiadau a gwybodaeth yma eich helpu i gwblhau eich taith gan deimlo'n ddiogel.
Os byddwch yn teithio ar eich pen eich hun:
Os byddwch yn teithio'n hwyr gyda'r nos:
Mae camau syml y gallwch eu cymryd er mwyn atal eich ffôn symudol rhag cael ei ddwyn, a cheir rhai dulliau o wneud eich ffôn yn anodd ei ddefnyddio os caiff ei ddwyn:
Mae'r Cynllun Gorsafoedd Diogel yn darparu cymhelliant i gwmnïau trenau wella diogelwch a thawelu meddwl teithwyr a staff, ac mae'n delio â'r holl reilffyrdd a'r rheilffyrdd tanddaearol sy'n cael eu plismona gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
Bydd gan orsafoedd achrededig y Cynllun Gorsafoedd Diogel rai, os nad y cyfan, o'r nodweddion canlynol:
Hefyd dylent ymateb i ddigwyddiadau a chyfathrebu'n effeithiol gyda'r teithwyr, ac deithwyr i riportio trosedd.
Heddlu Trafnidiaeth Prydain yw'r heddlu cenedlaethol ar gyfer y rheilffyrdd. Byddant yn darparu gwasanaeth i gwmnïau trenau, eu staff a'u teithwyr ar draws Prydain.
Yn Llundain maent hefyd yn plismona'r Trenau Tanddaearol, rheilffyrdd bach y Dociau a Chyswllt Tramiau Croydon.
Os byddwch yn dyst i drosedd, neu'n dioddef trosedd eich hun, gallwch ffonio Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 40 50 40, neu, os yw'n argyfwng, ffoniwch 999. Gellir cael mwy o wybodaeth am blismona gorsafoedd trên ar wefan Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
Mae Gorchmynion Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol bellach ar waith, ac fe'u defnyddir i fynd i'r afael â phroblemau parhaus megis pobl sy'n gwerthu tocynnau am elw, lladron pocedi, cardotwyr a fandaliaid graffiti.
Y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd (RAIB) sy'n gyfrifol am ymchwilio i ddamweiniau neu ddigwyddiadau ar reilffyrdd y DU. Corff annibynnol ydyn nhw sy'n ymchwilio er mwyn gwella diogelwch - ni fyddant yn beio neb. Yn ôl y gyfraith, rhaid i'r RAIB ymchwilio i'r holl ddamweiniau rheilffyrdd sy'n ymwneud a thrên yn mynd oddi ar y traciau neu wrthdrawiad sy'n achosi, neu a allant achosi:
Gall RAIB hefyd ymchwilio i ddigwyddiadau eraill sydd â goblygiadau o ran diogelwch rheilffyrdd, gan gynnwys y rhai hynny a allant fod wedi arwain at ddamwain dan amgylchiadau gwahanol.
Gwefan RAIB yw'r prif gyfrwng i ddosbarthu canfyddiadau o ymchwiliadau i ddamweiniau