Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cwyn am wasanaethau rheilffyrdd

A oes gennych gŵyn am wasanaeth rheilffordd, am orsaf neu am drên? Os felly, cewch wybod yma sut i ddelio â'ch cwyn a beth i'w wneud os na fyddwch yn hapus gyda'r canlyniad ar ôl cysylltu â'r cwmni dan sylw.

Cyflwyno'ch cwyn

Os oes gennych gŵyn am wasanaeth neu siwrnai rheilffordd, y cam cyntaf yw cysylltu â'r cwmni sy'n rhedeg y lein, y trên neu'r orsaf dan sylw.

Ceisiwch gysylltu â rhywun cyn gynted ag y bo modd, un ai trwy:

  • siarad ag aelod o'r staff ar y trên
  • siarad ag aelod o'r staff yn yr orsaf y byddwch yn gadael ohoni neu'n gorffen eich taith ynddi

Mynd â'r mater ymhellach

Os na allwch gysylltu â rhywun ar unwaith, neu eich bod angen mynd â'ch cwyn ymhellach, gwell fyddai nodi eich cwyn ar bapur, gan gynnwys prawf o'ch siwrnai, os bydd hynny'n bosib. Argymhellir eich bod yn cadw llungopi o'r holl ddogfennau y byddwch yn eu hanfon a phrawf o bostio

Cael cefnogaeth ar gyfer eich cwyn

Os byddwch yn dal yn anhapus gydag ymateb y cwmni trenau, gallwch ofyn i Passenger Focus fynd ar ei ôl - sef corff annibynnol y rheilffyrdd cenedlaethol sy'n gofalu am ddefnyddwyr. Byddant yn adolygu eich cwyn yn annibynnol ac yna'n barnu a gafodd ei drin yn briodol. Os byddant yn teimlo y dylai'r cwmni trenau fod wedi gwneud mwy, gallant gyflwyno cwyn i'r cwmni trenau ar eich rhan.

I drosglwyddo'ch cwyn i ddwylo Passenger Focus, mae'n syniad da i chi gyflwyno popeth ar bapur, gan anfon yr holl dystiolaeth a'r ohebiaeth flaenorol atynt.

Cwynion yn ymwneud ag anafiadau

Os oes gennych gŵyn sy'n ymwneud ag anaf a ddioddefoch ar drên neu mewn gorsaf, mae'n hanfodol eich bod yn cysylltu â rhywun sy'n gysylltiedig â'r trên neu'r orsaf cyn gynted â phosib, ar unwaith os oes modd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU