Os ydych am fynd dramor neu am osgoi tagfeydd traffig, y mae ystod o wasanaethau fferi a gwasanaethau cymudo ar gychod afon yn cynnig dewis arall da i deithio naill ai ar y ffyrdd, y rheilffyrdd, neu yn yr awyr.
Ceir gwasanaethau rhyngwladol yn rhedeg o borthladdoedd y DU i Ffrainc, Gweriniaeth Iwerddon, Sbaen, Gwlad Belg, Sgandinafia a'r Iseldiroedd.
Ceir gwasanaethau fferi lleol hefyd yn rhedeg i Ynysoedd y Sianel, Ynysoedd y Scilly, Ynys Manaw ac Ynysoedd yr Alban.
Ceir gwasanaethau cymudo afon yn:
Ceir mwy o fanylion ynghylch y gwasanaethau hyn a'r amserlenni ar wefannau Transport for London a Mersey Ferries.
Mae gan Gangen Dyfrffyrdd Mewndirol yr Adran Forol a Dyfrffyrdd o fewn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) gyfrifoldeb cyffredinol dros ddyfrffyrdd mewndirol yn Lloegr ac yng Nghymru. Yn yr Alban, Gweithrediaeth yr Alban sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol.
Y corff diwydiannol ar gyfer holl ddyfrffyrdd ledled y DU yw'r Gymdeithas Awdurdodau Mordwyo Mewnol (AINA). Mae gan AINA dogfen PDF y gellir llwytho oddi ar y we sy’n dangos pwy sy’n cynnal y dyfrffyrdd gwahanol ar draws y DU. Dyfrffyrdd Prydain, Adran yr Amgylchedd ac Awdurdod y Broads yw prif aelodau AINA, ynghyd â chynghorau lleol.
Os ydych yn penderfynu llogi cwch ar gyfer eich teithiau - p'un ai os ydych am logi cwch hwylio neu gwch ar gamlas - byddai'n fuddiol i chi ddarllen 'Sound practice, safer waters: The Inland waterways small passenger boat code', a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Awdurdodau Mordwyo Mewnol (AINA) a’r Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau. Gellir gofyn am gopi trwy wefan AINA.
Hefyd gellir llwytho taflen ynghylch y Cod Dyfrffyrdd gan Ddyfrffyrdd Prydain.