Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diogelwch mewn tacsi

Mae gyrwyr minicab didrwydded yn cyflawni deg ymosodiad rhywiol y mis yn Llundain yn unig. Fodd bynnag, mae camau y gallwch eu cymryd i sicrhau eich bod yn ddiogel, gan gynnwys gwneud yn siŵr fod y tacsi neu'r cerbyd hurio preifat y byddwch yn ei ddefnyddio wedi'i drwyddedu.

Gwneud yn siŵr bod eich tacsi yn gyfreithiol

Bydd unrhyw dacsi sydd heb drwydded yn rhedeg yn anghyfreithlon, ac ni fydd wedi derbyn yr archwiliadau y bydd awdurdodau trwyddedu'n eu gorfodi ar yrwyr a cherbydau. Felly peidiwch â defnyddio tacsi:

  • os bydd y gyrrwr yn ymddangos i fod dan ddylanwad alcohol
  • os nad yw'r gyrrwr yn ymddangos yn gyfarwydd â'r ardal leol
  • os bydd y cerbyd yn edrych yn rhy hen i gael ei ddefnyddio fel tacsi
  • os bydd y cerbyd mewn cyflwr gwael

Archebu tacsi

Gallwch godi llaw ar dacsi i'w stopio ar y stryd, neu fynd atynt mewn arosfannau tacsis. Gallwch archebu tacsi trwy ofyn i'r gyrrwr. Rhaid i gerbydau hurio preifat (a elwir yn minicabs fel arfer) gael eu harchebu trwy weithiwr trwyddedig bob amser.

Pan fyddwch yn trefnu siwrnai gan ddefnyddio cerbyd hurio preifat trwyddedig, awgrymir eich bod yn trafod y pris gyda'r gweithredydd wrth i chi archebu.

Cyngor ar deithio

Bydd hefyd yn syniad da gwneud nodyn o'r plât rhif a rhif trwydded y gyrrwr a'u tecstio i rywun fel rhagofal ychwanegol. Os oes gennych ffôn â chamera, gallwch dynnu llun o'r cerbyd hefyd.

Eisteddwch yng nghefn y cerbyd, a gafaelwch yn eich ffôn symudol fel y gellir ei ddefnyddio'n rhwydd.

Diogelwch mewn tacsi yn Llundain

Mae gan Adran Drafnidiaeth Llundain gwpl o gynlluniau i wneud teithio mewn tacsi yn fwy diogel ledled Llundain, gan gynnwys stiwardio arosfannau a sicrhau bod tacsis wedi'u trwyddedu.

Stiwardio Arosfannau

Ledled Llundain, bydd llawer o arosfannau'n cael eu stiwardio, ble bydd stiward yn sicrhau eich bod yn defnyddio tacsi sydd wedi'i drwyddedu ac sy'n gwybod lle'r ydych am fynd. Dim ond mewn ardaloedd penodol ac ar adegau penodol o'r nos y bydd stiwardio arosfannau ar waith, a dim ond ar y penwythnosau fel arfer.

Sicrhau bod tacsi yn drwyddedig yn Llundain

Mae Adran Drafnidiaeth Llundain yn rhedeg Uned Dacsis sy'n ymroddedig i gadw teithwyr yn ddiogel trwy fynd i'r afael â gyrwyr sy'n codi mwy o dâl nag a ddylent, a thrwy ddal gyrwyr anniogel a gyrwyr heb drwydded.

Mae’n hanfodol eich bod yn sicrhau bod trwydded gan eich tacsi neu'ch minicab. Mae gan Adran Drafnidiaeth Llundain gronfa ddata ar-lein sy'n eich galluogi i chwilio am weithwyr trwyddedig.

Gallwch hefyd decstio eich lleoliad i 60835 a byddwch yn derbyn neges destun yn rhestru'r gweithwyr trwyddedig lleol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU