Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cwyn ynghylch gwasanaethau tacsi a cherbydau hurio preifat

Os bydd gennych broblem gydag ymddygiad gyrrwr tacsi neu yrrwr minicab, neu os byddwch yn tybio nad yw'r cerbyd yn drwyddedig, rhowch wybod yn syth. Sicrhewch eich bod yn nodi rhif trwydded y cerbyd (a welir ar y ddisg neu'r plât rhif), a rhif trwydded y gyrrwr (a welir ar y bathodyn fel arfer).

Cwyno am dacsis

Mewn perthyna â thacsis, rhowch wybod yn syth i'r corff awdurdod am eich cwyn, sef y Swyddfa Cludiant Cyhoeddus yn Llundain neu eich awdurdod lleol y tu allan i Lundain.

Cwyno am gerbydau hurio preifat

Mewn perthynas â cherbydau hurio preifat neu finicabs, gallwch geisio datrys y gŵyn trwy'r cwmni. Os na fyddwch yn hapus gyda'r canlyniad, neu os ydych yn credu bod eich cwyn yn fwy difrifol na hynny, dyma'r dewis sydd gennych:

  • os ydych yn Llundain, dylech gwyno wrth y Swyddfa Cludiant Cyhoeddus (PCO)
  • os ydych y tu allan i Lundain, dylech gwyno wrth eich awdurdod lleol - bydd gan y rhan fwyaf ffurflenni cwyno am dacsi, sydd ar gael ar eu gwefannau

Riportio trosedd

Os bydd yr ymddygiad yn ymwneud â gweithred droseddol, dylech hefyd roi gwybod i'r heddlu. Mewn argyfwng ffoniwch 999.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU