Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwasanaethau tacsi a cherbydau hurio preifat

Mae tacsis yn cael eu trwyddedu i godi pobl ar unwaith - drwy aros mewn safle tacsis, wrth i bobl godi llaw arnynt i'w stopio ar y stryd neu ar ôl i rywun drefnu ymlaen llaw - ond dim ond i gasglu cwsmeriaid sydd wedi trefnu â chysylltydd trwyddedig ymlaen llaw y mae cerbydau hurio preifat (PHV) yn cael eu trwyddedu.

Rhaid i'r cerbydau a'u gyrwyr gael trwydded i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion cyfreithiol. O ran cerbydau hurio preifat, rhaid bod y cysylltydd (sy'n trefnu'r gwaith llogi) wedi'i drwyddedu hefyd. Ni fydd gan dacsis a cherbydau hurio preifat fwy nag wyth sedd ar gyfer cwsmeriaid.

Dod o hyd i dacsi trwyddedig yn Llundain

Rhaid i dacsis yn Llundain gael eu trwyddedu'n flynyddol gan Adran Drafnidiaeth Llundain (TfL), sy'n sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch a hygyrchedd. Maent yn gerbydau sydd wedi'u hadeiladu at eu pwrpas ac mae ganddynt blât ar gefn y cerbyd yn dangos rhif trwydded y tacsi.

Mae tacsis Llundain i gyd yn hygyrch i gwsmeriaid anabl. Gallwch hurio tacsi dros y ffôn gan ddefnyddio’r gwasanaeth ‘One number’. I rhif i ffonio yw 0871 871 8710.

Trwyddedir cerbydau hurio preifat yn Llundain gan Adran Drafnidiaeth Llundain yn unol â Deddf Cerbydau Hurio Preifat (Llundain) 1988 a rhaid iddynt arddangos disgiau arbennig ar ffenestr flaen a ffenestr gefn y cerbyd yn dangos statws eu trwydded.

Tacsis y tu allan i Lundain

Oddi allan i Lundain, cyfrifoldeb awdurdodau lleol (cynghorau dosbarth/bwrdeistref neu awdurdodau unedol) sy'n gyfrifol am drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru a Lloegr. Mae gan awdurdodau trwyddedu lleol dipyn o ddisgresiwn o ran pennu rheolau a safonau trwyddedu lleol.

Er enghraifft, gall awdurdodau trwyddedu lleol nodi'r canlynol:

  • y math neu'r mathau o gerbydau y maent yn barod i'w trwyddedu
  • unrhyw anghenion penodol o ran lliw
  • unrhyw gyfyngiadau oed
  • pa mor aml y profir cerbydau, a pha mor llym y gwneir hynny (yn ychwanegol i'r gofynion statudol y mae'n rhaid i bob cerbyd eu bodloni)
  • a oes angen cloc tacsi
  • unrhyw ofynion yn ymwneud â mynediad i bobl anabl

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu trwyddedu cerbydau hurio preifat yn galluogi awdurdod trwyddedu i ganiatáu trwydded i gerbyd hurio preifat cyn belled â'i fod yn bodloni'r amodau canlynol:

  • mae ei fath, ei faint a'i gynllun yn addas ar gyfer cerbyd hurio preifat
  • ni fyddai cynllun ac ymddangosiad y cerbyd yn peri i berson gredu mai cerbyd hacni ydyw
  • mae mewn cyflwr mecanyddol addas
  • mae'n ddiogel
  • mae'n gyfforddus

Bydd awdurdodau trwyddedu lleol hefyd am sicrhau bod y cerbydau wedi'u hyswirio'n briodol.

Cewch wybod mwy gan eich cyngor lleol.

Canfod a yw'ch gyrrwr wedi'i drwyddedu

Cyn rhoi trwydded i yrrwr tacsi neu yrrwr cerbyd hurio preifat, rhaid i awdurdodau trwyddedu fod yn fodlon fod yr ymgeisydd yn berson abl a phriodol i ddal trwydded o'r fath. Bydd awdurdodau lleol yn penderfynu pa elfennau i'w cynnwys wrth asesu a yw ymgeiswyr yn abl ac yn briodol, ond byddai'r asesiad fel arfer yn cynnwys:

  • archwiliad cofnod troseddol
  • prawf gwybodaeth topograffigol
  • archwiliad meddygol
  • prawf gyrru arbennig (mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru wedi creu prawf gyrru yn arbennig ar gyfer tacsis/cerbydau hurio preifat)

Fel arfer, mae'n ofynnol i yrwyr cerbydau hurio preifat wisgo bathodyn yn dangos rhif eu trwydded.

Allweddumynediad llywodraeth y DU