Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Parcio

Mae tagfeydd yn broblem gynyddol, yn enwedig o amgylch canol dinasoedd, ac mae llefydd parcio yn aml yn brin. Mae nifer o ardaloedd lleol wedi cyflwyno amrywiol gynlluniau parcio i helpu.

Pwy sy'n gyfrifol am barcio

Awdurdodau traffig lleol (cynghorau lleol fel arfer), ynghyd â chwmnïau preifat, sy'n gyfrifol am reoli parcio.

Mae rheoli parcio'n golygu:

  • creu llefydd parcio
  • cynnal meysydd parcio
  • creu parthau parcio a reolir, lle gellir cadw llefydd parcio ar gyfer pobl a chanddynt gerdyn parcio neu gyfyngu'r llefydd parcio i amseroedd penodol o'r dydd

Pwy sy’n gorfodi rheoliadau parcio?

Mae hyn yn dibynnu ar ble'r ydych yn byw. Mewn nifer o ardaloedd, gan gynnwys Llundain, gan awdurdodau lleol y mae'r grym i orfodi rheoliadau parcio. Mewn ardaloedd eraill, mae parcio'n fater troseddol - yr heddlu sy'n ei orfodi a'r llysoedd ynadon sy'n delio ag ef.

Cyfyngiadau parcio

Rhaid i chi dalu am barcio yn y rhan fwyaf o feysydd parcio a pharthau parcio a reolir. Gellir codi dirwy arnoch os byddwch yn parcio heb dalu neu'n aros yn hirach nag a ganiateir.

Ceir dau fath o system rheoli parcio:

  • parcio cyfyngedig - ar gyfer aros a llwytho'n unig
  • parcio dynodedig - mae hwn yn nodi ble y gellir gadael cerbydau a dan pa amodau, ac mae'n cynnwys parthau parcio preswyl

Ceir hefyd ardaloedd lle na chaniateir parcio neu aros:

  • llinellau melyn dwbl - ni cheir parcio yma, ond efallai y gellir llwytho dan rai eithriadau penodol
  • llinellau melyn sengl - ni cheir parcio yma ar adegau penodol
  • llwybrau coch - bydd llinell goch sengl fel arfer yn gwahardd stopio a pharcio yn ystod oriau gwaith, tra bydd llinell goch ddwbl yn gwahardd stopio a pharcio ar unrhyw adeg

Clampio olwynion a symud cerbydau sydd wedi eu parcio'n anghyfreithlon

Os oes gan awdurdod lleol bwerau gorfodi mewn cysylltiad â pharcio, gall glampio olwynion er mwyn sicrhau nad yw cerbyd sydd wedi'i barcio'n anghyfreithlon yn cael ei symud. Gall awdurdodau lleol hefyd symud eich cerbyd os yw wedi cael ei barcio neu wedi torri i lawr mewn modd sy'n mynd yn groes i reoliadau parcio.

Yng Nghymru a Lloegr, gall cwmnïau preifat glampio cerbydau sydd wedi eu parcio ar dir preifat. Mae Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) yn awr yn trwyddedu cwmnïau o'r fath.

Cynlluniau Parcio a Theithio

Mae llawer o drefi a dinasoedd yn rhedeg cynlluniau Parcio a Theithio i annog gyrwyr i barcio ar y cyrion yn hytrach na gyrru i ganol y dref neu'r ddinas. Mae'r cynlluniau hyn yn defnyddio cyfuniad o feysydd parcio ar y cyrion, a system trafnidiaeth gyhoeddus (bws fel arfer) sy'n cludo teithwyr o'r meysydd parcio hynny'n uniongyrchol i'r canol.

Mae cynlluniau Parcio a Theithio yn amrywio yn dibynnu ar lle'r ydych yn byw. Dim ond ar rai diwrnodau prysur y bydd rhai cynlluniau'n rhedeg, ond bydd eraill yn rhedeg drwy'r wythnos. Bydd y prisiau'n amrywio hefyd. Dim ond codi am docyn bws y bydd rhai cynlluniau, ond bydd cynlluniau eraill yn codi am barcio'r car ac am deithio ar y bws.

Mae rhai cynlluniau'n caniatáu i blant deithio am ddim, neu'n defnyddio system o roi tocynnau fesul car, lle mae nifer y bobl sy'n cyrraedd mewn un cerbyd yn cael teithio ar docyn sengl am un pris.

Cynllun parcio gwyrdd yn Sheffield

Gan fod trafnidiaeth yn cyfrannu'n sylweddol at lygredd aer, mae Cyngor Dinas Sheffield wedi cyflwyno cynllun parcio gwyrdd i wobrwyo pobl sy'n gyrru cerbydau glanach.

Mae 'cerbydau glanach' yn golygu ceir nad ydynt yn rhedeg ar betrol neu ddisel yn unig. Er enghraifft, mae ceir sy'n rhedeg ar drydan, nwy, bio-disel neu ddau-danwydd i gyd yn gymwys.

Mae'r cynllun ar waith ym Mharth Parcio Canolog Sheffield ac mae'n caniatáu parcio am ddim, hyd at amser penodol, mewn unrhyw fannau talu-ac-arddangos ar y stryd neu unrhyw un o feysydd parcio oddi ar y stryd Cyngor y Ddinas.

Cynlluniau parcio eraill

Ceir cynlluniau parcio eraill sydd â'r nod o'i gwneud yn haws i grwpiau penodol o bobl ddod o hyd i fan parcio.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cynlluniau parcio i breswylwyr - sy'n rhoi cerdyn parcio i breswylwyr mewn ardaloedd sy'n brin o lefydd parcio
  • mae’r Cynllun Parcio Bathodyn Glas yn cynnig parcio am ddim neu am bris gostyngol a mynediad at lefydd parcio cyfleus i bobl anabl ag anawsterau cerdded difrifol mewn cerbydau y byddant yn eu defnyddio fel gyrwyr neu fel teithwyr

Allweddumynediad llywodraeth y DU