Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Camerâu diogelwch

Y DU yw un o'r gwledydd gyda'r record diogelwch-ar-y-ffordd gorau yn y byd. Ymysg mesurau eraill, mae camerâu diogelwch yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o helpu i gadw rhwydwaith ffyrdd y wlad yn ddiogel.

Yr ystadegau

Ar gyfartaledd, mae naw person yn cael eu lladd ac 85 yn cael eu niweidio bob dydd ar ffyrdd y DU. Pe na fyddai gennym gamerâu diogelwch i leihau cyflymder cerbydau a gwneud y ffyrdd yn fwy diogel, byddai oddeutu 100 mwy o bobl y flwyddyn yn cael eu lladd.

Mathau o gamerâu diogelwch

Mae camerâu diogelwch yn cynnwys camerâu cyflymder a chamerâu goleuadau traffig (golau coch). Mae tri math o gamera cyflymder:

  • rhai sefydlog
  • rhai symudol, neu
  • rhai cyflymder cyfartalog (amser-dros-bellter)

Caiff y rhan fwyaf o gamerâu diogelwch yng Nghymru a Lloegr eu gweithredu gan bartneriaethau lleol. Caiff y partneriaethau hyn eu ffurfio fel arfer gan yr awdurdod lleol, yr heddlu, a'r llysoedd.

Beth yw'r rheolau ar gyfer camerâu cyflymder?

Y Swyddfa Gartref a Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu sy'n penderfynu sut y gellir defnyddio camerâu diogelwch.

Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi cynhyrchu taflen, 'Use of speed and red-light cameras for traffic enforcement: guidance on deployment, visibility and signing'. Mae'r daflen yn egluro lle gellir defnyddio'r camerâu a sut y dylid eu harddangos a nodi eu harwyddion. Fodd bynnag, os ceir camera diogelwch nad yw'n bodloni'r canllaw hwn ni allwch ei ddefnyddio fel amddiffyniad os cewch eich dal yn goryrru neu'n gyrru drwy olau coch.

Yn gyffredinol, caiff camerâu diogelwch eu gosod ar ffyrdd:

  • a chanddynt hanes o ddamweiniau traffig ffordd a
  • mannau lle ceir tystiolaeth o broblem yrru neu
  • mannau lle mae cymuned leol wedi mynegi pryder

Gall yr heddlu hefyd ddefnyddio camerâu i osod cyfyngiadau cyflymder. Yn yr achos hwn nid yw'r rheolau ynghylch gosod camerâu mewn llefydd amlwg yn berthnasol.

Dirwyon goryrru a phwyntiau cosb

Os caiff cerbyd ei ddal yn goryrru neu'n gyrru drwy olau coch gan gamera diogelwch, anfonir ffurflen 'Hysbysiad o’r Bwriad i Erlyn' at y ceidwad cofrestredig o fewn 14 diwrnod. Ceir rhan ar y ffurflen hon yn gofyn i'r ceidwad cofrestredig nodi pwy oedd y gyrrwr pan gyflawnwyd y trosedd.

Os mai chi yw'r gyrrwr, gallwch fod yn gymwys i gael cynnig amodol ar gosb sefydlog. Golyga hyn na fydd yn rhaid i chi fynychu gwrandawiad llys os byddwch yn talu'r gosb benodol.

Lleiafswm y ddirwy am oryrru neu am yrru drwy olau coch yw £60, ac ychwanegir 3 o bwyntiau cosb i'ch trwydded.

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys os...

... yw'r trosedd yn un difrifol neu os oes gennych nifer penodol o bwyntiau ar eich trwydded eisoes. Yn yr achos hwn ni chewch gynnig cosb sefydlog a bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys.

Gallwch ddewis mynd i'r llys os...

... ydych am herio'r gosb neu os oes amgylchiadau arbennig y dylai gael eu hystyried yn eich barn chi. Os byddwch yn rhoi gwybod i'r heddlu eich bod am fynd i'r llys byddant fel arfer yn rhoi gŵys i chi. Cewch roi eich rhesymau dros wrthwynebu'r ddirwy am oryrru ar y wŷs, yn ogystal ag unrhyw dystiolaeth y dymunwch i'r llys ei hystyried.

Ymddangos yn y llys

Os byddwch yn ymddangos yn y llys bydd yr ynadon yn penderfynu ar eich dirwy a'ch pwyntiau cosb. Gallant gynyddu'r ddirwy a nifer y pwyntiau cosb, ac efallai y byddwch hefyd yn cael gorchymyn i dalu'r costau llys.

Bydd yr holl ddirwyon yn mynd i Drysorlys EM. Nid yw'r heddlu na'r cynghorau lleol yn gwneud elw o'r dirwyon.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU