Un ffordd o leihau tagfeydd traffig yw codi tâl ar yrwyr am ddefnyddio ffyrdd. Mae gan Llundain a Durham gynlluniau o'r fath ar waith yn barod, ac mae trefi a dinasoedd eraill yn ystyried eu cyflwyno.
Mae Tâl Atal Tagfeydd Llundain yn cael ei redeg gan Transport for London (TfL). Fe'i gweithredir o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7.00 am a 6.00 pm, ac eithrio gwyliau cyhoeddus.
Os byddwch yn talu cyn hanner nos ar y diwrnod yr ydych yn bwriadu teithio, £8 yw'r gost ddyddiol, ond bydd y gost yn £10 os byddwch yn talu cyn hanner nos ar y diwrnod talu canlynol. Dim ond drwy gysylltu â'r ganolfan alw neu drwy'r wefan y gellir talu ar y diwrnod talu canlynol.
Mae'r parth y mae'n rhaid talu i deithio ynddo yn cynnwys canol Llundain, gan gynnwys mwyafrif bwrdeistrefi San Steffan a Kensington a Chelsea, a ychwanegwyd ym mis Chwefror 2007.
Mae'r parthau lle gweithredir y tâl atal tagfeydd wedi eu nodi'n glir, ac mae arwyddion i'w gweld ar yr holl ffyrdd sy'n arwain at y parthau hynny a'r ffyrdd sy'n mynd oddi wrthynt. Ar wefan TfL gellir gweld manylion ardaloedd y tâl atal tagfeydd a'r amseroedd pan fydd y tâl yn weithredol.
Y gosb am beidio â thalu Tâl Atal Tagfeydd Llundain yw £120, ond bydd hyn yn cael ei ostwng i £60 os byddwch yn talu o fewn 14 diwrnod. Os na fyddwch yn talu'r gosb ariannol o fewn 28 diwrnod bydd yn codi i £180.
Nid oes rhaid i bob gyrrwr dalu Tâl Atal Tagfeydd Llundain. Caiff rhai pobl a rhai mathau o gerbydau eu heithrio rhag gorfod talu, neu gallant gael disgownt. Gallech fod yn gymwys i gael disgownt:
Ni fyddwch yn cael disgownt ac yn cael eich eithrio'n awtomatig. Mae angen i chi gofrestru â TfL i'w cael.
Os byddwch wedi talu Tâl Atal Tagfeydd Llundain am flwyddyn ymlaen llaw, ac yna'n gwerthu'ch cerbyd, gallwch hawlio ad-daliad ar gyfer y dyddiau na wnaethoch eu defnyddio.
Yn 2001, cyflwynodd Durham gynllun codi tâl am ddefnyddio ffyrdd er mwyn rheoli traffig ar strydoedd hanesyddol gorynys Durham; ardal sy'n cynnwys Castell a Chadeirlan Durham, sy'n Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Gweithredir y tâl o £2 rhwng 10.00 am a 4.00 pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Rhaid i yrwyr dalu'r tâl yn y peiriant talu cyn gadael yr ardal. Mae'r peiriant talu hefyd yn derbyn trwyddedau eithrio ar gyfer preswylwyr, trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau argyfwng.
Gall gyrwyr anabl archebu trwydded ymlaen llaw drwy gysylltu â Siop barcio'r NCP ar 0191 384 6633, gyhyd â'u bod wedi trefnu man parcio ymlaen llaw.
Y gosb am beidio â thalu'r tâl yw £30.
Gellir cael manylion pellach ar wefan Cyngor Sir Durham.