Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Llygredd sŵn

Gall gormod o sŵn o awyrennau, traffig a rheilffyrdd effeithio ar ansawdd bywyd. Cael gwybod am reoliadau i reoli llygredd sŵn, beth allwch ei wneud i fynd i'r afael â phroblemau sŵn a sut i ddod o hyd i fap sŵn.

Cerbydau ffordd

Mae'n rhaid i gerbydau ffordd fodloni rhai safonau lefelau sŵn. Gall yr heddlu gymryd camau yn eich erbyn os nad yw tawelydd eich cerbyd yn gweithio neu os ydych yn gyrru mewn ffordd sy'n creu gormod o sŵn.

Sŵn traffig ffyrdd

Nid oes terfynau cyfreithiol penodol ar sŵn a ddaw o ffyrdd, ond efallai y bydd lefelau sŵn yn cael eu hystyried wrth gynllunio i adeiladu ffyrdd, tai a swyddfeydd newydd yn agos at ffyrdd.

Gellir defnyddio gwahanfuriau sain neu ynysiad rhag sŵn, megis ffenestri dwbl neu eilaidd, er mwyn lleihau'r broblem. Os bydd sŵn o ffyrdd newydd yn uwch na rhai terfynau penodol mewn tai presennol yna fel deiliad y tŷ efallai y gallech gael grant inswleiddio. Mae'r rhain ar gael drwy eich awdurdod priffyrdd lleol - gall eich cyngor lleol ddweud wrthych sut i gysylltu â hwy.

Sŵn Rheilffyrdd

Efallai bydd lefelau sŵn uchel yn effeithio ar bobl sy'n byw'n agos at reilffyrdd, ond nid oes rheolaethau cyfreithiol oni bai bod y sŵn yn cael ei achosi gan reilffordd newydd ac yn effeithio ar eich eiddo. Yn yr achos hwn, efallai y gallwch gael grant inswleiddio.

Os bydd trenau penodol yn achosi problem i chi, dylech siarad â'r cwmni sy'n rhedeg y trenau hynny. Gallwch gael gwybodaeth am gwmnïau trenau ar wefan National Rail.

Gallai fod yn ddefnyddiol i chi hefyd gysylltu â llinell gymorth 24 awr National Rail ar 08457 114 141.

Sŵn Awyrennau

Mae'r UE yn rheoli sŵn ym meysydd awyr canlynol y DU: Birmingham, Caeredin, Glasgow, Gatwick Llundain, Heathrow Llundain, Luton Llundain, Stansted Llundain a Manceinion.

Mae cyfyngiadau mwy caeth ym meysydd awyr Dinas Llundain a Dinas Belfast gan eu bod wrth ymyl dinasoedd mawr.

Mae cyfyngiadau sŵn hefyd yn amrywio gan ddibynnu ar p'un a ydynt ar gyfer teithiau hedfan yn ystod y dydd neu yn ystod y nos.

Mae'r mesurau a gymerir er mwyn lleihau sŵn yn cynnwys y canlynol:

  • hedfan dros yr ardaloedd a chanddynt lai o boblogaeth pryd bynnag y bo'n ymarferol
  • cyfyngiadau ar hedfan yn ystod y nos (e.e. gwaharddiad rhannol ar hedfan yn ystod y nos neu waharddiad llwyr ar gyfer yr awyrennau mwyaf swnllyd)
  • cynlluniau grantiau i osod ynysiadau sain yn y tai sy'n cael eu heffeithio gan hyn (am wybodaeth benodol, cysylltwch â'r maes awyr sy'n effeithio arnoch - mae gan wefan Awdurdod Maes Awyr Prydain (BAA) fanylion cyswllt ar gyfer meysydd awyr)

Mae gan wefan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wybodaeth gyffredinol a chyngor, gan gynnwys taflen ffeithiau y gellir ei llwytho ar sŵn awyrennau.

Sut i gwyno am sŵn awyrennau

Os ydych am gwyno am sŵn a hedfan yn isel, dylech gysylltu â'r maes awyr dan sylw (gallwch gael manylion y maes awyr ar wefan BAA) neu ddweud wrth yr Awdurdod Hedfan Sifil.

Awyrennau milwrol

Mae'r rheolau sy'n ymwneud ag awyrennau milwrol yn wahanol. Gallwch gwyno am ormod o sŵn neu hedfan yn isel gan awyrennau milwrol drwy wefan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mapiau sŵn

Gallwch gael mapiau sŵn rhyngweithiol ar gyfer dinasoedd ac ardaloedd trefol mawr ar wefan Noise Mapping England. Gallwch chwilio yn ôl cod post a gweld meysydd awyr. Gallwch hefyd lwytho mapiau sŵn o'r prif gysylltiadau trafnidiaeth rhwng dinasoedd ac ardaloedd trefol mawr.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU