Os ydych chi'n teithio i wlad arall efallai y bydd y cwmni hedfan yn gofyn i chi ddarparu eich manylion ymlaen llaw. Nid yw hyn yr un fath â chael fisa ac yn y rhan fwyaf o achosion gallwch gyflwyno eich manylion ar-lein. Yma, cewch wybod beth mae angen i chi ei wneud cyn teithio.
Am resymau diogelwch, erbyn hyn, mae'r Unol Daleithiau, y rhan fwyaf o Wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, a gwledydd eraill yn gofyn i gwmnïau hedfan ddarparu manylion am eu teithwyr cyn y daith. Gelwir hyn yn Fanylion Teithwyr Ymlaen Llaw (API).
Mae gofynion API yn amrywio o un wlad i'r llall. Bydd eich cwmni hedfan yn rhoi gwybod i chi beth mae arnynt ei angen gennych.
Nid yw darparu API yr un fath â gwneud cais am fisa. Bydd dal angen i chi ddilyn rheolau mynediad bob gwlad y byddwch yn ymweld â hi, ac mae hynny'n wir hefyd am unrhyw reoliadau o ran archwilio pasbortau a thollau.
Fel arfer, bydd y cwmni hedfan yn gofyn i chi ddarparu'r manylion a welir ar y dudalen yn eich pasbort sy'n cael ei darllen â pheiriant - sef y dudalen sy'n cynnwys eich llun.
Mae'n bosib y gofynnir am:
O bryd i'w gilydd, efallai y gofynnir i chi am wybodaeth ychwanegol - megis y cyfeiriad y byddwch yn aros ynddo y noson gyntaf.
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chasglu naill ai pan fyddwch yn archebu neu gan ddarllenydd pasbortau awtomatig pan fyddwch yn cofrestru yn y maes awyr. Yn y rhan fwyaf o achosion, os na fyddwch yn darparu eich API ar yr adeg briodol, mae'n bosib na chewch chi deithio.
Gan ddechrau ar 12 Ionawr 2009, mae angen i deithwyr o Brydain sy'n hedfan i'r Unol Daleithiau dan y Rhaglen Visa Waiver (VWP) gofrestru eu manylion ar-lein gyda llywodraeth yr Unol Daleithiau.
Pan fyddwch wedi cofrestru, bydd eich manylion yn ddilys am ddwy flynedd, neu am oes eich pasbort (nes bydd yn dod i ben), pa gyfnod bynnag yw'r byrraf.
Nid yw'r API yr un fath â gwneud cais am fisa, nac unrhyw wybodaeth ychwanegol arall y mae ei hangen ar awdurdodau rheoli pasbortau'r Unol Daleithiau - megis y wlad yr ydych yn byw ynddi a chyfeiriad y man y byddwch yn aros yn yr Unol Daleithiau.
Cewch ddysgu mwy am Raglen Visa Waiver yr Unol Daleithiau drwy ymweld â gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Cofrestru â System Deithio Electronig yr Unol Daleithiau
Mae'n rhaid cofrestru ar System Deithio Electronig yr Unol Daleithiau. Mae Adran Diogelwch y Famwlad yr Unol Daleithiau yn awgrymu cofrestru ddim llai na 72 awr cyn teithio. Fodd bynnag, gallwch gyflwyno eich manylion unrhyw bryd cyn teithio i'r Unol Daleithiau.
Ar hyn o bryd, ni chodir tâl am gofrestru gyda System Deithio Electronig yr Unol Daleithiau. Fodd bynnag, mae rhai gwefannau'n codi tâl am y gwasanaeth hwn, felly byddwch yn ymwybodol o hyn wrth gofrestru.
Teithio i'r Unol Daleithiau - â phwy y dylid cysylltu
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, fe'ch cynghorir yn gryf i gysylltu â Llysgenhadaeth UDA yn Llundain cyn teithio. Rhif ffôn y llinell Gwybodaeth am Fisas yw 0904 245 0100 (codir £1.20 y funud am bob galwad).
Wrth i'r rhestr o wledydd sy'n gofyn am fanylion teithwyr ymlaen llaw barhau i dyfu, nid yw'n bosib rhestru'r holl ofynion yn llawn yn y fan hon.
Os nad ydych yn siŵr beth mae ei angen arnoch, gallwch: