Eitemau peryglus a chyfyngedig: beth na chewch fynd gyda chi ar awyren
Mae gan y DU fesurau diogelwch llym i sicrhau nad yw eitemau peryglus yn cael eu cludo ar awyrennau. Yma cewch wybod beth na chewch ei gario yn eich bagiau llaw (y bagiau y byddwch yn eu cario gyda chi ar yr awyren) a beth na ellir ei gludo ar awyren o gwbl.
Beth na chewch ei gario yn eich bag llaw
Ni chewch fynd â dim byd yn eich bag llaw a all eich anafu chi a theithwyr eraill. Mae pethau o'r fath wedi'u 'gwahardd' a dim ond yn y bagiau y byddwch yn eu cofrestru i fynd ar yr awyren y cewch eu cludo.
Ni chaniateir eitemau sydd wedi'u gwahardd ym mannau siopa'r maes awyr chwaith, nac yng nghaban yr awyren ar unrhyw adeg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch beth y cewch neu na chewch fynd gyda chi, cysylltwch â'r cwmni hedfan neu â'r maes awyr yn uniongyrchol.
Oeddech chi'n gwybod na chewch fynd â'r rhain yn eich bag llaw?
Maent wedi'u gwahardd gan reoliadau'r DU a dim ond yn y bagiau sy'n cael eu cofrestru y cewch eu cludo:
- teclynnau tynnu corcyn
- dartiau
- sisyrnau â llafnau mwy na 6cm
- chwistrelli hypodermig (oni bai fod eu hangen am resymau meddygol)
- cyllyll
- cyllyll a ffyrc metel (ac eithrio llwyau te)
Gwrthrychau miniog ac arfau â blaen neu fin arnynt
Ni chaniateir y canlynol yn eich bag llaw.
Maent yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig, i'r canlynol:
- bwyelli
- saethau a dartiau
- cramponau
- tryferi a gwaywffyn
- bwyelli rhew a cheibiau rhew
- esgidiau sglefrio ar rew
- cyllyll fflicio neu gyllyll cloi gyda llafnau o unrhyw faint
- cyllyll, gan gynnwys cyllyll defodol, gyda llafnau sy'n fwy na 6cm, wedi'u gwneud o fetel neu unrhyw ddeunydd arall sy'n ddigon cryf i'w ddefnyddio fel arf posib
- cyllyll torri cig
- twcaod
- llafnau a raseli agored (ac eithrio raseli diogelwch neu daflu-i-ffwrdd mewn cetris)
- sabrau a chleddyfau
- cyllyll llawfeddygon
- sisyrnau â llafnau mwy na 6cm o hyd
- polion heicio/cerdded a sgïo
- sêr taflu
- offer crefftwyr y byddai'n bosib eu defnyddio fel arfau â min neu flaen iddynt, gan gynnwys driliau ac ebillion driliau, cyllyll torri blychau, cyllyll defnyddiol, llifau o bob math, sgriwdreifers, trosolion, morthwylion, gefeiliau, sbaneri, torshis fflamau
Arfau heb fin
Maent yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig, i'r canlynol:
- batiau pêl fas a batiau pêl feddal
- clybiau neu fatonau - hyblyg neu anhyblyg - gan gynnwys clybiau 'Billy', 'blackjacks', 'night sticks' a batonau
- batiau criced
- clybiau golff
- ffyn hoci
- ffyn lacrós
- padlau canŵod a chaiacau
- sglefrfyrddau
- ciwiau snwcer, pŵl a biliard
- gwiail pysgota
- offer crefftau ymladd (knuckle dusters, coshes, rice flails, num chucks, kubatons, kubasaunts a chlybiau er enghraifft)
Beth na chewch fynd ar awyren
Mae adran pedwar Deddf Diogelwch wrth Hedfan 1982 yn eich gwahardd rhag cludo arfau, ffrwydron ac eitemau eraill a all eich anafu neu'ch niweidio chi a theithwyr eraill.
Gall swyddogion diogelwch y maes awyr hefyd gymryd unrhyw beth sy'n beryglus yn eu barn nhw oddi arnoch.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch pa eitemau y mae gennych hawl i'w cludo, cysylltwch â'ch cwmni hedfan yn uniongyrchol.
Mae'r eitemau canlynol yn cael eu hystyried yn beryglus ac ni chewch eu cludo yn eich bag llaw nac yn eich bagiau eraill ar unrhyw gyfrif.
Gynau, drylliau ac arfau
Mae unrhyw offer sy'n gallu bod yn arf, sy'n gallu rhyddhau taflegrau neu sy'n gallu achosi anaf wedi'u gwahardd ac ni chewch eu cludo yn eich bag llaw nac yn y bagiau y byddwch yn eu cofrestru. Mewn rhai achosion, fodd bynnag, efallai y cewch gludo rhai o’r eitemau ar y rhestr yn eich bag llaw. Yn gyntaf, bydd angen i chi wneud trefniadau arbennig gyda’r cwmni hedfan. Cysylltwch â nhw os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Mae'r eitemau'n cynnwys, ond nid yn gyfyngedig, i'r canlynol:
- pob math o ddryll (pistolau, llawddrylliau, reifflau, gynau saethu)
- drylliau replica a drylliau ffug
- rhannau o ddrylliau (heblaw dyfeisiadau gweld telesgopig)
- pistolau aer, reifflau a gynnau haels
- pistolau fflêr
- pistolau cychwyn
- gynnau tegan o bob math
- gynau pelferynnau
- gynnau hoelion a bolltau diwydiannol
- bwâu saeth
- catapyltiau
- gynnau picell a thryferi
- dyfeisiadau lladd anifeiliaid yn hynaws
- dyfeisiadau i roi sioc neu i syfrdanu, megis prodiau gwartheg ac arfau dargludo ynni balistig (taser)
- tanwyr siâp dryll tân
Ffrwydron a sylweddau fflamadwy
Mae sylweddau sy'n peri risg i iechyd y teithwyr a'r criw wedi'u gwahardd ac ni chewch eu cludo yn eich bag llaw nac yn y bagiau y byddwch yn eu cofrestru.
Mae'r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig, i'r canlynol:
- ffrwydron a dyfeisiadau ffrwydrol gan gynnwys tanwyr, ffiwsiau, grenadau
- capiau chwythu
- tanwyr a ffiwsiau
- ffrwydron a dyfeisiadau ffrwydrol
- dyfeisiadau neu ddeunyddiau ffrwydrol replica neu ffug
- ffrwydron militaraidd a chyflenwadau ffrwydrol militaraidd
- grenadau o bob math
- nwy a chynwysyddion nwy megis bwtan, propan, asetylen ac ocsigen mewn cyflenwadau mawr
- tân gwyllt a fflerau o unrhyw fath a phyrotechnegau eraill, gan gynnwys popwyr parti a chapiau tegan
- matsys heb fod yn rhai diogelwch
- cetris neu flychau sy'n cynhyrchu mwg
- hylifau a thanwyddau fflamadwy, megis petrol/gasolin, diesel, hylif tanio, alcohol, ethanol a methanol
- solidau fflamadwy a sylweddau adweithiol, gan gynnwys magnesiwm, cychwynwyr tân, tân gwyllt, fflerau
- aerosol paent chwistrell
- turpentin a hylif teneuo paent
- diodydd sy'n cynnwys mwy na 70 y cant cyfaint alcohol
Sylweddau cemegol a thocsig
Mae cemegau sy'n peri risg i iechyd y teithwyr a'r criw wedi'u gwahardd ac ni chewch eu cludo yn eich bag llaw nac yn y bagiau eraill y byddwch yn eu cofrestru.
Mae'r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig, i'r canlynol:
- perocsidyddion organig ac ocsidyddion, gan gynnwys cannydd a phecynnau trwsio corff ceir
- asidau ac alcalïau megis batris 'gwlyb' a allai arllwys
- hylifau cyrydol neu gannu gan gynnwys mercwri a chlorin
- batris cerbydau a systemau tanwydd cerbydau
- chwistrellau analluogi gan gynnwys byrllysg, chwistrell pupur, nwy dagrau
- deunyddiau ymbelydrol, gan gynnwys isotopau masnachol neu feddygol
- sylweddau tocsig a gwenwynig, gan gynnwys gwenwyn llygod mawr
- sylweddau heintus neu ddeunyddiau biolegol peryglus megis gwaed wedi'i heintio, bacteria a firysau
- deunyddiau a allai danio neu hylosgi'n ddirybudd
- diffoddwyr tân