Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Datgan arian wrth ddod i mewn i'r DU neu wrth adael

O 15 Mehefin 2007 ymlaen, os byddwch yn teithio i wlad neu o wlad y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE), bydd angen i chi ddatgan unrhyw symiau o 10,000 ewro neu fwy (neu'r swm cyfwerth mewn arian cyfred arall) i Gyllid a Thollau EM.

Pryd fydd angen i chi ddatgan arian

Dim ond os ydych yn cludo mwy na 10,000 ewro neu arian sy'n cyfateb i hynny ac yn teithio i neu o wlad y tu allan i'r UE y bydd angen i chi ddatgan arian.

Diffiniad o'r UE

At ddibenion datgan arian parod y gwledydd canlynol sy'n rhan o'r UE:

Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Cyprus, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Gibraltar, Groeg, Hwngari, Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania, Slofacia, Slofenia, Sbaen (yn cynnwys yr Ynysoedd Dedwydd), Sweden a'r Deyrnas Unedig (heb gynnwys Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel).

Diffiniad o arian parod

Mae'r term 'arian parod' yn cynnwys:

  • darnau a phapurau arian
  • drafftiau banc
  • sieciau o bob math, yn cynnwys sieciau teithio

Sut mae datgan arian parod i Gyllid a Thollau EM

Rhaid i chi ddatgan arian ar ffurflen ddyblyg C9011, a phostio'r copi uchaf 1 wedi'i lenwi yn y blwch priodol a ddarperir yn y porthladd neu'r maes awyr.

Gallwch gael y ffurflen hon yn y porthladd neu'r maes awyr a'i llenwi yno, neu gallwch ei llwytho oddi ar y we a'i hargraffu drwy ddilyn y ddolen isod, er mwyn i chi allu'i llenwi cyn i chi ddechrau ar eich taith.

Gall swyddogion Cyllid a Thollau EM ofyn am weld tystiolaeth eich bod wedi gwneud datganiad. Mae’n bwysig felly eich bod yn cadw copi o’r ffurflen yr ydych wedi'i llenwi. Cynhyrchir hon yn awtomatig ar Gopi carbon 2 os gwnewch eich datganiad ar ffurflen a ddarperir yn y porthladd neu'r maes awyr. Os defnyddiwch y ffurflen wedi'i hargraffu oddi ar y we, bydd angen i chi wneud llungopi o Gopi 1. (Does dim rhaid i chi lenwi Copi 2 o'r ffurflen).

Mae'n bosib y cewch ddirwy oni fyddwch yn datgan yr arian neu'n rhoi gwybodaeth anghyflawn neu ffug.

Eich hawliau os cymerir meddiant o'ch arian

Ni fydd swyddogion Cyllid a Thollau EM yn cadw arian sydd wedi'i ddatgan onid oes ganddynt sail resymol i amau y bwriedir ei ddefnyddio'n anghyfreithlon neu ei fod wedi'i ennill drwy ddulliau anghyfreithlon.

Ni ellir cadw arian y cymerir meddiant ohono am fwy na 48 awr heb orchymyn llys (heb gynnwys gwyliau cyhoeddus a phenwythnosau).

Gall llys orchymyn i'r arian y cymerwyd meddiant ohono:

  • gael ei ddal tra cynhelir ymchwiliadau
  • gael ei gadw'n ôl yn barhaol os dengys yr ymchwiliad ei fod yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol

Os cymerir meddiant o'ch arian, cewch wybodaeth am sut i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU