Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mynd â’ch anifeiliaid anwes dramor

Os ydych yn mynd dramor ac am fynd â'ch cath, eich ci neu'ch ffured gyda chi, gallai'r Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes (PETS) eich helpu i osgoi cyfnodau hir o gwarantîn ar ôl i chi ddychwelyd i'r Deyrnas Unedig. Gall cŵn tywys a chŵn clyw hefyd deithio gyda'r cynllun.

Cynllun PETS

Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i roi diwedd ar ledaenu'r gynddaredd ac afiechydon eraill gan adael i anifeiliaid deithio ar yr un pryd.

Mae'r gwledydd sy'n cymryd rhan yn y cynllun PETS yn cynnwys y rhan fwyaf o wledydd Ewrop a nifer o gyrchfannau y tu allan i Ewrop. Holwch Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) i gael gwybod beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd.

I fod yn gymwys, mae'n rhaid i'ch cath, eich ci neu'ch ffured fodloni'r amodau canlynol:

  • rhaid iddynt gael microsglodyn
  • rhaid iddynt gael pigiad rhag y gynddaredd (rabies)
  • rhaid iddynt gael prawf gwaed gan labordy a gymeradwyir gan yr Undeb Ewropeaidd
  • ni chânt fod wedi ymweld ag unrhyw wlad na thiriogaeth nad ydynt wedi'u cymeradwyo am o leiaf chwe mis cyn iddynt ddod i mewn neu ddychwelyd i'r DU

Mae'n ofynnol bod eich anifail anwes hefyd:

  • yn cael pasport i anifeiliaid anwes gan eu milfeddyg
  • yn cael triniaeth i atal llyngyr a throgod, dim llai na 24 awr a dim mwy na 48 awr cyn mynd at gludydd a gymeradwyir gan PETS er mwyn cael ei gludo'n ôl i'r Deyrnas Unedig
  • yn teithio ar hyd llwybrau a gymeradwyir gan PETS wrth deithio dros y môr, mewn awyren ac ar reilffyrdd

Rhaid i berchnogion hefyd lofnodi datganiad preswyliaeth.

Cyn i chi fynd

Rhaid i chi drefnu'ch taith gydag un o'r nifer o gludwyr a gymeradwyir gan PETS, ar lwybr a gymeradwyir gan PETS. Mae'r llefydd sydd ar gael yn gyfyngedig ac fe'u dyrennir ar sail y cyntaf i'r felin. Rhaid i chi drefnu ymlaen llaw oherwydd ni chaiff eich anifail anwes deithio os na fyddwch wedi gwneud hynny.

Gofalu am eich anifail anwes wrth deithio

Gall yr awgrymiadau hyn wneud taith eich anifail anwes mor gyffyrddus â phosib:

  • gwnewch yn siŵr bod eich anifail anwes mor heini ac iach ag y bo modd fel y gall wrthsefyll y siwrnai
  • rhowch bryd ysgafn o fwyd iddynt tua dwy awr cyn iddynt deithio
  • rhowch gyfle i'ch anifail anwes fynd i'r toiled cyn iddo gael ei roi yn y gawell y bydd yn cael ei gludo ynddi
  • rhowch gyfle i'ch anifail anwes ymgyfarwyddo â'r gawell cyn y daith
  • dylai bod digon o aer yn y gawell y bydd eich anifail anwes yn cael ei gludo ynddi, dylai bod digon o le iddo symud, dylai fod yn ddiogel, gyda digon o fwyd a dŵr ar gyfer y daith mewn pecynnau y gellir eu hail-lenwi'n hawdd ar siwrnai hir
  • rhowch glustog neu flanced gyfarwydd yn y gawell er mwyn helpu'ch anifail i setlo

I gael rhagor o wybodaeth am iechyd anifeiliaid anwes, ewch i wefan Defra.

Dychwelyd i’r DU

Wrth i chi gyrraedd y DU, bydd y staff trafnidiaeth yn edrych ar basport eich anifail anwes er mwyn sicrhau bod gofynion y cynllun wedi cael eu bodloni. Os oes gwaith papur ar goll neu os nad yw'ch anifail anwes wedi cael ei baratoi'n gywir, gellid mynd ag ef i gwarantîn yn y DU neu ei ddychwelyd i'r wlad y mae newydd ddod ohoni.

Teithio â chŵn cymorth cofrestredig

Mae'r Gymdeithas Cŵn Tywys i Bobl Ddall, mewn partneriaeth â mudiadau eraill sy'n ymwneud â chŵn cymorth yn y Deyrnas Unedig, Defra, a nifer o gwmnïau hedfan yn y DU, wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i berchnogion cŵn cymorth cofrestredig sy'n dymuno defnyddio'r Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes.

Fel arfer, mae'n rhaid i anifeiliaid anwes sy'n dod i mewn i'r Deyrnas Unedig ar awyrennau dan y Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes gael eu cario yn howld yr awyren. Fodd bynnag, ceir eithriad yn y cynllun er mwyn caniatáu i gŵn tywys neu gŵn cymorth eraill deithio yn y caban gyda'u perchnogion, a hynny ar lwybrau penodol sydd wedi'u cymeradwyo.

Mae'r adran pobl anabl yn rhoi mwy o wybodaeth am gŵn tywys hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU