Cyngor am deithio i wledydd
Os ydych chi'n bwriadu teithio dramor, mae amrywiaeth o wybodaeth a chyngor ar gael, gan gynnwys cyngor gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ynghylch teithio o amgylch y byd.
Cael gwybod am fygythiadau posibl
Fe allwch chi edrych ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad lle ceir hysbysiadau teithio. Bydd yr hysbysiadau hyn yn gymorth i chi osgoi helynt. Maent yn rhoi gwybodaeth am fygythiadau posibl i'ch diogelwch personol oherwydd aflonyddwch gwleidyddol, gweithgareddau terfysgol, anhrefn, trais, trychinebau naturiol ac epidemigau, ynghyd â rhoi gwybodaeth am gyfreithiau lleol a'r gofynion ar gyfer mynd i mewn i wledydd.
Caiff y wybodaeth ei hadolygu bob mis a phryd bynnag y bydd digwyddiad o bwys. Pan fydd argyfwng yn datblygu mewn ardal, caiff y cyngor ei ddiweddaru'n amlach, weithiau sawl gwaith y diwrnod.
Ymwybyddiaeth ddiwylliannol
Gall gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol a chyfreithiol eich helpu i osgoi sefyllfaoedd anodd neu sefyllfaoedd a allai achosi chwithdod i chi.
Dyma rai cynghorion:
- prynwch lawlyfr da a dysgwch am y cyfreithiau, yr arferion a'r diwylliant lleol
- ewch â llyfr ymadroddion gyda chi
- parchwch arferion lleol a dulliau gwisgo, gan ystyried beth fyddwch chi'n ei wisgo a pha mor weddus yw hynny
- byddwch yn synhwyrol cyn mynegi'ch barn am wahaniaethau diwylliannol, gan ymddwyn a gwisgo'n addas, yn enwedig wrth ymweld â mannau crefyddol, marchnadoedd a chymunedau gwledig
- dylech fod yn arbennig o ofalus nad ydych yn pechu yn erbyn crefydd Islam yn y ffordd y byddwch chi'n gwisgo ac yn ymddwyn, ac o ran cysylltiadau rhywiol, alcohol a chyffuriau - mewn rhai gwledydd, er enghraifft, mae'n anghyfreithlon yfed, a gall mewnforio alcohol i'r wlad arwain at gosbau llym iawn
- gofynnwch am ganiatâd unigolyn bob amser cyn tynnu llun ohonynt a pharchwch eu dymuniadau - mewn rhai diwylliannau, gall tynnu llun o fenyw ddigio pobl yn arw
- peidiwch â bargeinio yn rhy ymosodol; yn y rhan fwyaf o'r gwledydd lle bydd bargeinio'n digwydd, gwneir hynny gyda hiwmor ac ni fydd yn para'n rhy hir - mae'n bwysig cofio mai ychydig geiniogau efallai fydd y gwahaniaeth i chi, ond gall hynny fod yn incwm sylweddol i'r gwerthwr
- does dim niwed mewn bod yn rhy ofalus - gall ymddygiad a fyddai'n hollol ddiniwed mewn gwlad arall arwain at helbul difrifol
Cael mwy o gyngor
Gallwch gael cyngor am deithio drwy ffonio canolfan alw cyngor teithio'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar 0845 850 2829. Gallwch hefyd fynd ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gael amrywiaeth o gyngor teithio manwl.
I gael cyngor ar deithio i wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd gallwch fynd ar wefan Your Europe.