Defnyddio’ch ffôn symudol dramor
Mae pobl yn cludo ffonau symudol yn aml wrth deithio dramor gan eu bod yn ffordd dda o gadw mewn cysylltiad gyda'ch teulu a'ch ffrindiau gartref. Crwydro rhyngwladol yw'r enw ar y gwasanaeth sy'n eich galluogi i ddefnyddio eich ffôn symudol o'r DU mewn gwledydd tramor. Dilynwch y cyngor canlynol i baratoi'n drylwyr am eich trip.
Cyn mynd
Cofiwch wneud y canlynol:
- cysylltwch â'ch darparwr rhwydwaith ffôn symudol yn y DU i sicrhau bod eich eich ffôn symudol wedi'i osod i'w ddefnyddio dramor - gwnewch hyn mewn da bryd cyn i chi adael y wlad, gan y gall gymryd hyd at 14 diwrnod, ac nid oes modd ei wneud pan fyddwch dramor
- gofalwch fod eich ffôn presennol yn gweithio yn y wlad dan sylw - efallai na fydd, yn enwedig y tu allan i Ewrop
- cysylltwch â'ch darparwr rhwydwaith yn y DU i weld faint yw pris gwasanaethau crwydro rhyngwladol, gan y gall prisau fod yn wahanol iawn o'u cymharu â galwadau yn y DU. Gwnewch yn sicr hefyd eich bod yn cadarnhau'r prisiau cyfredol cyn gadael gan y gall rhai prisiau newid ar fyr rybudd
Os ydych chi'n bwriadu defnyddio eich ffôn symudol yn aml tra byddwch chi dramor
Ystyriwch y dewisiadau canlynol:
- mae rhai gwasanaethau ffonau symudol yn cynnig gwasanaethau teithio rhyngwladol sy'n rhoi galwadau rhatach o dramor am ffi fisol - gofynnwch i'ch darparwr rhwydwaith beth yw'r prisiau ac am ba mor hir y byddwch wedi'ch ymrwymo i dalu am y gwasanaeth
- fel rheol mae'n rhatach defnyddio cerdyn 'SIM' gwahanol yn eich ffôn (cerdyn SIM yw cerdyn bychan sy'n galluogi'r ffôn i weithio ar rwydwaith symudol penodol. Fe ellir ei gyfnewid yn hawdd yn eich ffôn)
- gellir prynu cardiau SIM dramor ar gyfer rhwydweithiau tramor, e.e. mewn meysydd awyr rhyngwladol a lleoliadau gwyliau neu, ar gyfer ambell wlad yn Ewrop, gan rai siopau yn y DU
- dylech holi a fydd cardiau SIM gwahanol yn dod i ben ar ôl cyfnod penodol
- dylech allu llogi ffôn symudol am y cyfnod y byddwch chi dramor gan y rhan fwyaf o gwmnïau ffôn symudol yn y wlad y byddwch yn ymweld â hi
- os oes gennych chi bryderon penodol am y gwasanaeth neu safon y galwadau efallai bod modd i chi ddewis rhwydwaith benodol ar gyfer crwydro rhyngwladol - gofynnwch i'ch darparwr rhwydwaith a yw'n cynnig dewis o rwydweithiau a sut mae newid rhyngddynt
- os ydych chi'n defnyddio gwasanaeth crwydro rhyngwladol eich darparwr rhwydwaith eich hun a hwnnw wedi'i dalu amdano'n barod, sicrhewch cyn i chi adael eich bod yn gwybod sut i ddefnyddio eich cerdyn credyd i gael mwy o gredyd galwadau, neu ewch â thalebau gyda chi, gan y gallant fod yn anodd eu cael dramor
- gofynnwch i'ch darparwr rhwydwaith beth mae'n rhaid i chi ei ddeialu i ddefnyddio'r gwasanaeth crwydro rhyngwladol. Efallai na fydd hyn mor syml â dim ond defnyddio'r cod rhyngwladol 0044 ar gyfer y DU
- rhowch rif ffôn y Llysgenhadaeth, yr Uchel Gomisiwn neu'r Is-Genhadaeth Brydeinig agosaf yn y wlad y byddwch yn ymweld â hi yn eich ffôn cyn i chi adael, a gwnewch yr un peth gyda rhifau ffôn eich gwesty a'ch cynrychiolydd ar y daith
- ewch ag addasydd trydanol ar gyfer y plwg gwefru gyda chi, a chadwch eich ffôn wedi'i wefru'n llawn tra byddwch chi dramor
Diogelwch ffonau symudol
Gwnewch nodyn o’r canlynol:
- rhif cyfresol eich ffôn symudol (sy'n cael ei adnabod fel y rhif IMEI hefyd)
- rhif ffôn eich ffôn symudol
- rhif ffôn gwasanaeth cwsmeriaid y darparwr (gan gynnwys cod deialu y DU).
Cadwch hwy mewn man diogel, ar wahân i'r ffôn ei hun.
Os caiff eich ffôn ei ddwyn bydd modd i chi gysylltu â'r darparwr rhwydwaith yn y DU a gofyn iddynt rwystro'ch ffôn a'r/neu'r cerdyn SIM rhag cael eu defnyddio. Efallai y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol er mwyn rhwystro'r ffôn rhag cael ei defnyddio, fel cyfrinair, er enghraifft. Cysylltwch â'ch darparwr cyn i chi adael i gael manylion am yr hyn y byddant yn ei wneud os caiff ffonau eu dwyn, a sicrhewch fod gennych chi ddigon o wybodaeth dramor i allu rhwystro rhywun rhag defnyddio'r ffôn os caiff ei ddwyn.