Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhestr atgoffa i deithwyr

Er mwyn i chi gael gwyliau diogel, dyma 10 o'r pethau pwysicaf i'w gwneud cyn i chi fynd:

  1. edrychwch ar gyngor teithio'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) ar eu gwefan neu ffoniwch 0845 850 2829
  2. cael yswiriant teithio a gofalu bod hwnnw'n addas
  3. prynwch lawlyfr da i ddod i adnabod y lleoliad dan sylw, gan gynnwys y cyfreithiau a'r arferion lleol
  4. sicrhewch fod gennych chi basport dilys a'r fisas angenrheidiol
  5. ewch i weld eich meddyg teulu o leiaf chwe wythnos cyn i chi deithio i gael gwybod pa frechiadau sydd eu hangen arnoch ac a oes angen i chi gymryd rhagofalon iechyd ychwanegol
  6. sicrhewch fod trefnydd eich taith yn gallu darparu digon o dystiolaeth ar gyfer ad-dalu neu roi arian yn ôl i gwsmeriaid petaent yn wynebu methdaliad (dylai un o nifer o sefydliadau amddiffyn ariannol fod yn darparu hyn)
  7. os bydd eich taith yn cynnwys teithio gyda chwmni awyrennau sy'n ddieithr i chi, efallai yr hoffech chi gysylltu gydag asiant teithio sydd ag enw da i ofalu eu bod yn ddiogel ac yn ddibynadwy
  8. gwnewch gopïau o'ch pasport, o'ch polisi yswiriant, o rif argyfwng 24 awr ac o fanylion eich tocynnau - gan adael copïau gyda theulu a ffrindiau
  9. ewch â digon o arian gyda chi ar gyfer eich taith ynghyd ag arian wrth gefn, e.e. sieciau teithio, punnoedd sterling neu ddoleri'r UDA
  10. gadewch gopi o gynllun eich taith a'ch manylion cyswllt gyda theulu a ffrindiau - cyfeiriad e-bost, er enghraifft

Mae gwefan y Swyddfa Dramor hefyd yn rhoi cyngor teithio penodol i fenywod, teithwyr hoyw a lesbiaid, teithwyr ifanc, teithwyr yn y byd chwaraeon, teithwyr ar wyliau byr a heicwyr.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU