Drwy gynllunio ychydig ymlaen llaw, gallwch warchod eich iechyd pan fyddwch yn teithio ac osgoi biliau meddygol annisgwyl. Yma cewch wybod sut mae adnewyddu neu wneud cais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC), sy'n rhoi hawl i chi gael triniaeth am ddim neu am bris gostyngol yn Ardal Economaidd Ewrop ac yn y Swistir.
Efallai y gwelwch ei bod yn anodd ac yn ddrud cael triniaeth iechyd mewn rhai gwledydd ond bydd cerdyn EHIC yn helpu i dalu am driniaeth gan y wladwriaeth, os bydd angen, pan fyddwch yn ymweld â gwledydd yn Ardal Economaidd Ewrop. Gallwch hefyd wneud pethau cyn i chi fynd dramor i warchod eich iechyd eich hun ac iechyd eich teulu.
Bydd eich cerdyn EHIC yn ddilys ledled Ardal Economaidd Ewrop (AEE) ac yn y Swistir (mae AEE yn cynnwys yr Undeb Ewropeaidd ynghyd â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy).
Mae'r cerdyn yn eich galluogi i fanteisio ar ofal iechyd gan y wladwriaeth am bris rhatach, weithiau am ddim, pan fydd ei angen arnoch oherwydd salwch neu ddamwain ar eich taith. Mae hefyd yn eich gwarchod rhag cyflyrau a oedd gennych eisoes. Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn ynghylch y warchodaeth a gewch a phwy sy'n gymwys ar wefan NHS Choices.
Y ffordd gyflymaf yw gwneud cais ar-lein. Fel rheol, bydd eich cerdyn yn cyrraedd o fewn saith niwrnod. Gallwch hefyd wneud cais dros y ffôn ar 0845 606 2030 neu drwy'r post drwy ddefnyddio ffurflen gais sydd ar gael o swyddfa'r post.
Gallwch wneud cais am gerdyn i chi'n unig neu ar ran eich partner ac unrhyw blentyn sydd gennych sy'n iau na 18 oed ac mewn addysg amser llawn. Os ydych yn iau nag 16 oed, bydd angen i'ch rhiant neu'ch gwarcheidwad wneud cais ar eich rhan. Caiff staff addysgu mewn ysgolion preswyl hefyd wneud cais ar ran unrhyw blant yn eu gofal.
Ar gyfer pob plentyn yr ydych yn gwneud cais ar ei ran bydd yn rhaid i chi ddarparu:
Gall y rhan fwyaf o bobl wneud cais ar-lein neu dros y ffôn, ond bydd angen i chi wneud cais drwy'r post:
Sut a phryd ddylwn i adnewyddu fy ngherdyn?
Mae Cardiau Yswiriant Iechyd Ewropeaidd yn ddilys am bum mlynedd. Fodd bynnag, tair blynedd oedd oes y cardiau gwreiddiol, a bydd y rhain yn dod i ben eleni. Dylech wneud cais am un newydd cyn y dyddiad y daw i ben - gallwch wneud cais hyd at chwe mis cyn i'ch hen gerdyn ddod i ben. Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein neu dros y ffôn ar 0845 606 2030. Gallwch hefyd wneud cais drwy'r post gan ddefnyddio ffurflen o'ch swyddfa bost leol. Ond cofiwch y bydd ceisiadau drwy'r post yn cymryd mwy o amser.
Os oes arnoch angen cerdyn Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd yn lle un sydd ar goll neu wedi'i ddwyn ffoniwch 0845 606 2030.
Os bydd yr EHIC yn mynd ar goll neu'n cael ei ddwyn pan rydych dramor, gallwch wneud cais am Dystysgrif Dros Dro (Provisional Replacement Certificate - PRC) a fydd yn rhoi'r un warchodaeth i chi â'r EHIC tra byddwch dramor. I gael PRC ffoniwch (+0044) 191 218 1999 (mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener). Rydym yn awgrymu i chi gadw'r rhif hwn a mynd ag ef gyda chi pan fyddwch yn teithio dramor.
I gael PRC bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
Gall ychydig o waith paratoi wneud gwahaniaeth mawr:
Cysylltwch â'ch meddyg teulu, nyrs practis neu glinig teithio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am imiwneiddiadau y mae'n bosib y bydd eu hangen ar eich plentyn.
Ewch i NHS Choices i gael gwybodaeth am iechyd - gan gynnwys cyngor ar iechyd a theithio - a gwasanaethau iechyd lleol yn Lloegr