Mae sawl math gwahanol o arian yn cael eu defnyddio o amgylch y byd. Y gyfradd gyfnewid gyfredol sy'n pennu faint o arian tramor gewch chi yn gyfnewid am bunt Brydeinig. Gall cyfraddau cyfnewid godi a gostwng o ddiwrnod i ddiwrnod wrth i'r amgylchiadau economaidd newid.
Fe allwch chi newid eich punnoedd Prydeinig am arian o'ch dewis mewn:
Ni fydd pob man sy'n cynnig gwasanaeth cyfnewid yn gallu rhoi arian mân i chi yn yr arian dan sylw, felly mae'n syniad da gofalu a fydd angen arian mân arnoch neu beidio ar gyfer tollau ffyrdd a throlïau bagiau ac ati pan fyddwch chi'n cyrraedd y wlad arall.
Os ydych am gael symiau mawr o arian neu arian o wledydd pellach, mae'n debyg bydd angen i chi archebu ymlaen llaw oherwydd mae’n bosib na fydd mewn stoc.
Daeth yr arian ewro i rym ar 1 Ionawr 2002. Mae papurau ac arian mân yr ewro wedi disodli'r hen arian cenedlaethol yn llwyr yn y 15 gwlad sy'n rhan o 'ardal yr ewro'.
Gwledydd ardal yr ewro yw:
Nid yw'r DU, Denmarc na Sweden yn rhan o ardal yr ewro.
Mae saith o bapurau arian: 5, 10, 20, 50, 100, 200 a 500 ewro. Mae wyth o ddarnau arian: 1, 2, 5, 10, 20 a 50 sent; ac 1 a 2 ewro. Mae un ewro yn gyfwerth â 100 sent.
Mae papurau'r ewro yn union yr un fath ym mhob un o wledydd ardal yr ewro. Mae'r darnau yn union yr un fath ar un ochr, gyda symbol cenedlaethol ar yr ochr arall. Gellir defnyddio ceiniogau unrhyw wlad yn unrhyw le arall yn ardal yr ewro (er enghraifft, gellir defnyddio darn 2 ewro o Sbaen i brynu nwyddau yn Ffrainc).