Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Datgan arian wrth ddod i'r DU

Os ydych yn teithio o wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a bod gennych fwy na 10,000 ewro yn eich meddiant, bydd yn rhaid i chi ddatgan hynny wrth Gyllid a Thollau EM. Mae’r adran hon yn esbonio mwy am y rheol hon a sut mae datgan arian.

Pryd y bydd angen i chi ddatgan arian

Dim ond os ydych yn teithio o wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ac yn cario mwy na 10,000 ewro neu swm cyfwerth mewn arian cyfred arall y bydd angen i chi ddatgan arian.

Diffiniad o’r Undeb Ewropeaidd

Yng nghyswllt datgan arian, mae’r Undeb Ewropeaidd yn cynnwys:

yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, y Deyrnas Unedig (heb gynnwys Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel), yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Gibraltar, Groeg, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Portiwgal, Rwmania, Sbaen (gan gynnwys yr Ynysoedd Dedwydd), Slofacia, Slofenia, Sweden a’r Weriniaeth Tsiec.

Diffiniad o arian

Mae'r term ‘arian’ yn cynnwys:

  • darnau a phapurau arian
  • drafftiau banc
  • sieciau o bob math, gan gynnwys sieciau teithio

Sut mae datgan arian wrth Gyllid a Thollau EM

Rhaid i chi ddatgan arian ar ffurflen ddyblyg C9011, a phostio rhan uchaf Copi 1 wedi'i llenwi yn y blwch priodol a ddarperir yn y porthladd neu'r maes awyr.

Gallwch gael y ffurflen hon yn y porthladd neu’r maes awyr a’i llenwi yno, neu gallwch ei llwytho a’i hargraffu drwy ddilyn y ddolen isod.

Gall swyddogion Cyllid a Thollau EM ofyn am gael gweld tystiolaeth eich bod wedi datgan arian. O’r herwydd, mae’n bwysig i chi gadw copi o’r ffurflen orffenedig. Os cewch y ffurflen yn y porthladd neu’r maes awyr, gwneir copi carbon yn awtomatig wrth i chi lenwi’r ffurflen, a dyma fydd Copi 2 y ffurflen. Os byddwch yn llwytho’r ffurflen a’i hargraffu, bydd angen i chi wneud llungopi o Gopi 1. (Nid oes angen i chi lenwi Copi 2 y ffurflen a argraffwyd.)

Os na fyddwch yn datgan yr arian neu os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghyflawn neu ffug, mae'n bosib y byddwch yn cael dirwy.

Eich hawliau os cymerir meddiant o'ch arian

Ni fydd swyddogion Cyllid a Thollau EM yn cadw arian sydd wedi'i ddatgan onid oes ganddynt sail resymol dros amau y bwriedir ei ddefnyddio'n anghyfreithlon neu ei fod wedi'i ennill drwy ddulliau anghyfreithlon.

Ni ellir cadw arian y cymerir meddiant ohono am fwy na 48 awr heb orchymyn llys (heb gynnwys gwyliau cyhoeddus a phenwythnosau).

Gall llys orchymyn bod yr arian y cymerwyd meddiant ohono:

  • yn cael ei gadw tra cynhelir ymchwiliadau
  • yn cael ei gadw’n barhaol os bydd yr ymchwiliad yn dangos ei fod yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol

Os meddiannir eich arian, bydd Cyllid a Thollau EM yn egluro sut y gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad.

Additional links

A yw'n bryd i chi adnewyddu eich Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC)?

Bydd angen adnewyddu EHIC a gyhoeddwyd yn 2005 ac ar ddechrau 2006 yn fuan. Peidiwch â mentro teithio i Ewrop heb gerdyn dilys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU