Mae llysgenadaethau, is-genadaethau ac uwch gomisiynau yn cynrychioli'r DU mewn gwledydd eraill drwy'r Is-gennad Prydeinig. Gwaith yr Is-gennad Prydeinig yw gwarchod buddiannau dinasyddion y DU dramor. Os oes gennych genedligrwydd deuol, gall hyn effeithio ar faint o gymorth a gewch gan yr Is-gennad.
Mae cenadaethau diplomyddol bob amser wedi'u lleoli mewn prifddinasoedd; gall cenadaethau consiwlar fod rhywle arall yn y wlad.
Mae cenadaethau consiwlar hefyd yn cael eu galw, yn dibynnu ar eu pwysigrwydd, yn:
Yng ngwledydd y Gymanwlad, caiff cenhadaeth ddiplomyddol ei galw'n 'uwch gomisiwn'. Mewn gwlad nad yw'n rhan o'r Gymanwlad, fe'i gelwir yn 'llysgenhadaeth'
Prif waith yr Is-gennad Prydeinig yw gwarchod buddiannau dinasyddion y DU. Gall staff yr Is-gennad gynnig cefnogaeth, cymorth a chyngor ymarferol. Mae eu gwaith arferol yn cynnwys:
Maent hefyd yn defnyddio'u gwybodaeth leol i asesu'r peryglon i ddinasyddion y DU.
Os ydych chi'n ddinesydd â chenedligrwydd deuol sy'n teithio dramor ar eich pasport Prydeinig mewn gwlad nad ydych yn un o'i dinasyddion, gall yr Is-gennad Prydeinig roi cymorth llawn i chi.
Os ydych chi'n teithio ar basport eich cenedligrwydd arall, dylech fel arfer fynd i lysgenhadaeth, uwch gomisiwn neu is-genhadaeth y wladwriaeth honno.
Os ydych chi'n teithio yng ngwlad eich cenedligrwydd arall, ni fyddai'r Is-gennad Prydeinig fel arfer yn rhan o unrhyw drefniadau sydd gennych gyda'r wlad honno, oni bai fod rheswm dyngarol arbennig dros wneud hynny.