Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Arestio a charchar dramor

Os caiff dinesydd Prydeinig ei arestio neu ei gadw yn y ddalfa dramor, bydd Is-gennad Prydain lleol yn ceisio helpu. Ni all yr Is-gennad ryddhau'r person hwnnw o'r carchar, ond bydd yn cymryd camau os bydd yr awdurdodau dan sylw wedi gwadu eu hawliau neu sathru arnynt.

Os cewch eich arestio

Dylech gysylltu ag Is-gennad Prydain a rhoi gymaint o wybodaeth ag sy’n bosib am eich sefyllfa. Er enghraifft, dylech geisio darparu cyfeiriad post llawn eich carchar, manylion am unrhyw gynrychiolydd cyfreithiol a gwybodaeth am yr awdurdodau sy'n gyfrifol am yr achos llys.

Os cewch eich arestio neu eich rhoi yn y ddalfa, mae'n bwysig eich bod:

  • yn ymbwyllo ac yn cydweithredu
  • yn ymatal rhag bod yn ymosodol neu'n dreisgar, gan y bydd hynny'n gwneud pethau'n waeth
  • yn mynnu bod Is-gennad Prydain yn cael gwybod - mae gan bob dinesydd Prydeinig hawl i hyn

yn gofalu bod perthnasau neu ffrindiau yn cysylltu ag Is-gennad Prydain neu'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) yn Llundain drwy ffonio +44 (0) 207 008 1500

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU