Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyffuriau

Mae 3,200 o Ddinasyddion Prydeinig mewn carchardai dramor, a mwy na thraean ohonynt dan glo am droseddau'n ymwneud â chyffuriau. Mae pryderon bod nifer cynyddol o Brydeinwyr, yn enwedig pobl ifanc, yn cymryd, yn cludo neu'n gwerthu cyffuriau tra byddant ar wyliau.

Ymwneud â chyffuriau dramor

Os ydych chi'n cymryd cyffuriau tra ar wyliau dramor neu'n bwriadu dod â rhai yn ôl gyda chi, gallai'ch gwyliau delfrydol arwain at oes mewn carchar:

Cofiwch:

  • mae llawer o wledydd y tu allan i'r DU yn gwrthod rhoi mechnïaeth cyn achos llys i bobl sy'n cael eu hamau o droseddau'n ymwneud â chyffuriau, ac yn aml cânt eu carcharu ar eu pennau'u hunain
  • bydd gennych chi record droseddol yn y DU os cewch chi'ch dal â chyffuriau dramor
  • os byddwch chi wedi'ch dal â chyffuriau dramor, mae'n annhebygol y cewch chi ymweld â'r wlad honno fyth eto
  • os cewch chi'ch anafu neu os byddwch chi'n sâl o ganlyniad i ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon, efallai na fydd eich yswiriant yn ddilys a gall trefnydd y daith wrthod eich hedfan adref
  • Cyprus - polisi digyfaddawd yn erbyn cyffuriau, a bydd bod â rhai yn eich meddiant fel arfer yn arwain at ddirwy drom neu hyd yn oed garchar am oes
  • Sbaen - cosbau llym a gall dedfrydau am gludo cyffuriau bara hyd at 12 mlynedd
  • Groeg - gall bod ag ychydig o gyffuriau yn unig yn eich meddiant arwain at gyfnod hir mewn carchar a hyd yn oed carchar am oes
  • Tunisia - gall bod ag ychydig yn unig o gyffuriau yn eich meddiant arwain at gyfnod mewn carchar, a throseddau mwy difrifol at 20 mlynedd mewn carchar a dirwy
  • Jamaica - mae troseddau'n ymwneud â chyffuriau yn arwain at gyfnod gorfodol mewn carchar (mae amgylchiadau'r carchardai yn arw) a dirwyon trwm, a gall bod ag ychydig yn unig yn eich meddiant arwain at garchar
  • Venezuela - mae cludwyr cyffuriau yn wynebu dedfryd o 10 mlynedd fan leiaf mewn carchar, dan amgylchiadau garw
  • Gall Gwlad Thai, Malaysia, Singapore, Indonesia, Iran ac Algeria roi'r gosb eithaf am rai troseddau'n ymwneud â chyffuriau

Os byddwch chi'n ymwneud â chyffuriau dramor, ni all Is-gennad Prydain:

  • eich rhyddhau o'r carchar
  • cael amgylchiadau carchar gwell i chi nag sy'n cael ei roi i ddinasyddion lleol neu ddinasyddion gwledydd eraill
  • rhoi cyngor cyfreithiol i chi chwaith.

Peidiwch â dioddef dramor o ganlyniad i gyffuriau

  • paciwch eich bagiau i gyd eich hun a sicrhewch eu bod wedi'u cau yn dynn
  • cadwch eich bagiau gyda chi mewn meysydd awyr a mannau tebyg eraill i osgoi'r posibilrwydd y bydd rhywun yn rhoi cyffuriau ynddynt
  • byddwch yn ymwybodol o bobl yn dod atoch mewn meysydd awyr - gall hyd yn oed gais diniwed yr olwg i ofalu am eiddo rhywun arall arwain at broblemau
  • peidiwch â chludo dim drwy'r tollau dros rywun arall. Os caiff cyffuriau eu darganfod, chi fydd yn gyfrifol. Am resymau tebyg, peidiwch â chroesi ffiniau gyda phobl nad ydych yn eu hadnabod na gyrru dros ffiniau gyda chymdeithion dieithr
  • dylech gael presgripsiwn meddyg ar gyfer unrhyw feddyginiaeth sydd gennych er mwyn osgoi oedi dianghenraid gyda swyddogion tollau a mewnfudo
  • byddwch yn ofalus iawn cyn derbyn anrhegion gan bobl dramor - mae'n hawdd iawn cuddio cyffuriau mewn eitemau fel esgidiau, eitemau cosmetig a theganau plant
  • peidiwch â gadael i chi'ch hun gael eich perswadio na'ch gorfodi i gludo cyffuriau - oes pwrpas peryglu'ch bywyd neu dreulio rhwng saith mlynedd ac oes mewn carchar am £2,000?

Ewch i dudalennau Cyngor Teithio'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gael gwybodaeth am gyfreithiau cyffuriau a chosbau pob gwlad. Mae'r farchnad gyffuriau hefyd yn effeithio'n amgylcheddol ar y byd i gyd. I gael gwybod mwy am hyn ac am yr effaith economaidd a chymdeithasol ar gymunedau lleol, ewch i wefan Tourism Concern. Elusen yw Tourism Concern sy'n ymgyrchu o blaid twristiaeth foesegol sy'n parchu masnach deg.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU