Os byddwch yn teithio dramor a rhywun yn troseddu yn eich erbyn, gall Is-gennad Prydain yn y wlad honno roi cymorth a chefnogaeth i chi - beth bynnag fo'r trosedd.
Os byddwch chi wedi dioddef trosedd dramor, neu os bydd ffrind neu berthynas wedi dioddef marwolaeth dreisgar, efallai na fyddwch eisiau nac angen siarad am y peth gyda neb ar wahân i'ch teulu a'ch ffrindiau. Ond os byddwch eisiau gwneud hynny, cofiwch fod cymorth a chyngor hefyd ar gael yn y DU, gan gynnwys cefnogaeth eich meddyg teulu a'r mudiadau a restrir isod.