Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cenedligrwydd deuol

Gwaith Is-gennad Prydain yw amddiffyn buddiannau brodorion Prydeinig dramor. Mae gan rai dinasyddion Prydain genedligrwydd deuol, sy'n golygu eu bod hefyd yn frodorion gwlad arall. Gall bod â chenedligrwydd deuol effeithio ar faint o gymorth y gallwch ei gael gan is-gennad.

Cymorth gan yr Is-gennad Prydeinig

Os oes gennych chi genedligrwydd deuol a'ch bod yn y wlad arall, ni all yr Is-Genhadaeth Brydeinig roi cymorth ffurfiol i chi, er y bydd yn ceisio gwneud popeth o fewn ei gallu i'ch cynorthwyo'n anffurfiol.

Ni all Is-Gennad Prydain wneud y canlynol:

  • dechrau neu ymyrryd mewn achos llys ar eich rhan
  • eich rhyddhau o garchar
  • roi cyngor cyfreithiol i chi
  • cael triniaeth o safon well i chi nag sy'n cael ei rhoi gan yr awdurdodau i bobl leol - er enghraifft, mewn ysbytai neu garchardai
  • ymchwilio i drosedd
  • talu unrhyw filiau drosoch (gan gynnwys biliau meddygol a chymorth cyfreithiol)
  • talu am docynnau teithio, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig
  • cael trwyddedau preswylio neu drwyddedau gwaith i chi
  • trefnu llety i chi
  • gweithredu fel asiant teithio neu sefydliad awyrennau, banc neu foduro

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU