Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pasportau a fisas

Bydd angen pasport deng mlynedd llawn arnoch os ydych chi'n dymuno teithio dramor. Mae'n bosib y bydd angen fisa arnoch hefyd, yn dibynnu ar y wlad yr ydych yn mynd iddi, a'ch rheswm dros deithio.

Pasportau

Y pethau sylfaenol

Y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS) fydd yn delio â cheisiadau am basport ac ymholiadau yn eu cylch.

Rhaid i basport fod yn ddilys ar gyfer taith gyfan. Os bydd eich pasport yn dod i ben pan fyddwch i ffwrdd, dylech gael pasport newydd cyn i chi adael.

Mae rhai gwledydd yn mynnu bod eich pasport yn ddilys am o leiaf chwe mis ar ôl y dyddiad y byddwch yn mynd i mewn i'r wlad. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch hyn, holwch is-genhadaeth neu lysgenhadaeth y wlad yn y DU.

Gofalu am eich pasport

Cyn ac yn ystod eich taith:

  • gwnewch nodyn o rif eich pasport, ei ddyddiad a'r man lle cafodd ei gyhoeddi, a chadwch hwnnw mewn lle diogel ac ar wahân i'ch pasport
  • os oes cwpwrdd diogel yn eich gwesty, gadewch eich pasport yno yn ystod eich arhosiad gan gario llungopi gyda chi
  • gofalwch eich bod yn gwybod pryd mae'ch pasport yn dod i ben cyn teithio
  • ewch â manylion eich perthnasau agosaf gyda chi a gadewch gopi gyda ffrind neu berthynas
  • ewch â dogfen adnabod arall gyda chi a honno'n cynnwys eich llun
  • rhowch wybod i is-genhadaeth neu lysgenhadaeth Prydain ar unwaith os aiff eich pasport ar goll neu os caiff ei ddwyn dramor

Faint mae pasport yn ei gostio?

Mae cost pasport DU yn amrywio gan ddibynnu ar sut y byddwch yn gwneud cais. Er enghraifft:

  • £72 am gais sylfaenol drwy'r post
  • £97 am wasanaeth cyflym wythnos o hyd
  • £46 am basport plentyn

Gellir cael manylion llawn am ffioedd pasport ar wefan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau, neu drwy ffonio'r Llinell Wybodaeth ar gyfer Ffioedd Pasport ar 0800 056 6654, neu'r gwasanaeth Ffôn Testun ar 0808 156 1559.

Gwneud cais am basport

Ceir pedair ffordd wahanol i wneud cais am basport:

  • ar-lein ar wefan Y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau
  • drwy un o'r 2,300 o bartneriaid y stryd fawr
  • drwy'r post gan ddefnyddio ffurflen (naill ai o Swyddfa'r Post neu o'r Gwasanaeth Pasportau a Chi)
  • yn bersonol mewn swyddfa leol

Cyfweliadau am basport

O fis Ebrill 2007 ymlaen, efallai y bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ac yn gwneud cais am basport am y tro cyntaf, gael cyfweliad fel rhan o'r broses ymgeisio.

Bydd y cyfweliad yn cadarnhau mai eich cais chi a neb arall yw'ch cais am basport, ac yn gwneud yn siŵr mai chi yw'r perchennog cyfiawn.

Os oedd gennych basport plentyn, ni fydd angen i chi gael eich cyfweld er mwyn cael eich pasport oedolyn cyntaf. Dim ond os nad ydych erioed wedi cael pasport Prydeinig o'r blaen y bydd angen i chi fynd i gyfweliad.

Rydych yn gwneud cais yn y ffordd arferol ond ar ôl anfon eich ffurflen gais cewch lythyr yn gofyn i chi drefnu cyfweliad. Ar y dechrau, ni fydd pawb sy'n gwneud cais am basport cyntaf yn cael eu cyfweld. Os nad ydych wedi cael llythyr yn gofyn i chi drefnu cyfweliad o fewn wyth diwrnod gwaith i'ch cais gael ei dderbyn, ni fydd angen i chi gael eich cyfweld.

Fisas

Os ydych chi'n teithio i rywle y tu allan i diriogaethau Prydain, efallai y bydd angen i chi wneud cais am fisa gan is-genhadaeth neu lysgenhadaeth y wlad honno. Mae gan wefan y Swyddfa Dramor restr o fanylion cyswllt llysgenadaethau yn y DU. Mae gan rai gwledydd wefannau eu hunain sy'n rhoi gwybodaeth am fisas - mae gan wefan Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau, er enghraifft, fanylion am bwy sydd angen fisa i deithio i'r UDA.

Os ydych chi'n ddinesydd yn un o diriogaethau dibynnol Prydain, yn ddinesydd Prydeinig dramor, yn ddeiliad Prydeinig, yn frodor Prydeinig dramor, neu'n berson sydd wedi'i amddiffyn gan Brydain, efallai y bydd angen i chi wneud cais am fisa hyd yn oed os nad oes angen i ddinasyddion Prydeinig wneud hynny

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU