Os cyhuddir rhywun o drosedd a'i fod/bod yn pledio'n ddieuog, mae'n bosib y bydd rhaid i chi fynd i'r llys i roi tystiolaeth os oeddech chi'n dyst neu'n ddioddefwr. Mae'n bosib y byddwch chi'n teimlo'n anghyfforddus am orfod mynd, felly mae'n beth da gwybod beth fydd yn digwydd yn y llys ymlaen llaw.
Os ydych wedi rhoi datganiad i'r heddlu a bod yr achos yn mynd i'r llys, does dim wastad rhaid i chi fod yn bresennol yn yr achos. Weithiau, gall cyfreithiwr neu gynrychiolwyr y ddiffynnydd gytuno â'ch tystiolaeth os nad oes ganddyn nhw gwestiynau i'w gofyn i chi. Os cytunir â'ch tystiolaeth, y cyfan fydd yn digwydd yw bod eich datganiad yn cael ei ddarllen ar goedd yn y llys ac ni fydd rhaid i chi fynd yno.
Fodd bynnag, os bydd yr heddlu'n cysylltu â chi ac yn dweud eich bod wedi'ch galw fel tyst, bydd rhaid i chi fynd i'r llys. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gael eich rhyddhau o'r ysgol, o'r coleg neu o'r gwaith. Os oes rhaid i chi sefyll arholiad neu os oes rhywbeth arall na allwch wir mo'i osgoi ar yr un diwrnod, cysylltwch â'r sawl a ddywedodd wrthych am fod yn bresennol yn y llys cyn gynted ag y bo modd.
Os ydych chi'n nerfus ac yn bryderus am roi tystiolaeth, mae'n bosib y byddwch chi am i un o'ch rhieni neu berthynas hwn fynd i'r llys gyda chi i fod yn gefn i chi. Fodd bynnag, chân nhw ddim sefyll wrth eich ochr wrth i chi roi tystiolaeth.
Mae'n bwysig iawn bod y twrneiod sydd wedi gofyn i chi fynd i'r llys yn gwybod ymhle'r ydych chi er mwyn cysylltu â chi os bydd unrhyw beth yn newid. Os oes tyst ar goll ac nad oes modd cysylltu ag ef/hi, fe all achosion chwalu. Os nad ydych chi'n teimlo'n dda iawn ar y diwrnod, rhowch wybod i rywun cyn gynted ag y bo modd.
Os hoffech chi gael golwg o gwmpas y llys cyn diwrnod y treial, gofynnwch sut mae cysylltu â'r Gwasanaeth Tystion. Byddant yn gwneud eu gorau i drefnu hyn.
Os ydych am gael gwybod mwy am beth sy’n digwydd yn y llys, un o’r ffyrdd gorau yw ymweld â llys am ddiwrnod. Mae nifer o achosion llys ar agor i’r cyhoedd, lle gellir eistedd yn y Galeri Ymwelwyr a gwylio. Gallwch hefyd edrych am wybodaeth ynghylch diwrnodau agored yn eich llys lleol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch mynd i’r llys, cysylltwch â’r llys o flaen llaw er mwyn iddynt allu rhoi gwybod i chi am beth i ddisgwyl, a threfnu i chi ymweld â’r llys cyn y gwrandawiad llys.
Caiff y mwyafrif helaeth o achosion eu gwrando mewn llys ynadon. Tri ynad fydd yn penderfynu beth yw canlyniad yr achosion hyn a'r math o gosb a roddir.
Os oedd y trosedd yn un difrifol, anfonir yr achos i dreial yn Llys y Goron. Mae rheithgor yn y llysoedd hyn - grŵp o bobl sy'n penderfynu a yw'r diffynnydd yn euog ai peidio. Os ceir y diffynnydd yn euog, bydd y barnwr yn penderfynu ar hyd y ddedfryd.
Os yw'r sawl a gyhuddir o'r drosedd dan 18 oed, mae'n bosib y bydd rhaid i chi fynd i lys arbennig ar gyfer pobl ifanc. Gwrandewir achosion sy'n ymwneud â phobl dan 18 oed gan ynadon sydd wedi cael eu hyfforddi'n arbennig i ddelio â diffynyddion ifanc. Ond os yw'r achos yn un difrifol, defnyddir Llys y Goron, beth bynnag y bo oedran y diffynnydd.
Bydd y llythyr yr ydych yn derbyn o’r heddlu yn dweud wrthoch chi am ba lys y bydd disgwyl i chi fynd.
Pan fyddwch chi'n cyrraedd y llys, dangoswch y llythyr gawsoch chi gan yr heddlu wrth y dderbynfa. Byddan nhw'n gallu dweud wrthych ym mha ystafell y gwrandewir eich achos. Dylech hefyd siarad â chynrychiolydd y Gwasanaeth Tystion a fydd yn gallu dweud wrthych ymhle y cewch chi eistedd nes i chi gael eich galw i'r llys ei hun.
Unwaith yr ydych yn y llys gofynnir cwestiynau i chi am eich tystiolaeth gan dwrneiod yr erlyniad a'r amddiffyniad. Gwrandewch yn ofalus ar y cwestiynau a ofynnir i chi a chymerwch eich amser wrth ateb. Peidiwch â bod ofn gofyn i'r twrnai ailadrodd y cwestiwn os nad ydych wedi'i ddeall.
Peidiwch â phoeni, dydych chi ddim ar dreial. Bydd y twrneiod yn gofyn llawer o gwestiynau er mwyn sicrhau bod y ffeithiau i gyd yn gywir. Mae'n bosib y bydd rhai o'r cwestiynau'n anodd i chi, ond cofiwch, dim ond gwneud eu gwaith y maen nhw a dydyn nhw ddim yn pigo arnoch chi'n bersonol.
Ar ôl i'r ddwy ochr orffen eich holi, fe gewch adael ystafell y llys. A dibynnu ar ba fath o lys rydych chi ynddo, mae'n bosib y cewch chi aros i wrando ar weddill yr achos, neu mae'n bosib y byddai'n well gennych fynd adref.
Os ydych chi dan 17 oed, mae'n bosib y bydd y llys yn eich ystyried yn dyst bregus ac yn gofyn am gamau arbennig wrth i chi roi tystiolaeth. Gall y camau hyn gynnwys:
Y barnwr neu'r ynad gaiff y gair olaf am ddefnyddio camau arbennig ai peidio, ond byddan nhw'n gofyn i chi sut rydych chi'n teimlo am roi tystiolaeth cyn penderfynu.
Gall rhoi tystiolaeth yn y llys fod yn brofiad eithaf cythryblus. Er eich bod o bosib yn teimlo'n ofnus, cofiwch: