Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pobl ifanc a charchar

Os byddwch chi wedi'ch cael yn euog o drosedd, fe allech fod yn wynebu cyfnod o garchar. Chewch chi mo'ch anfon i garchar oedolion, ond i ganolfan arbennig i bobl ifanc sy'n cynnig hyfforddiant, goruchwyliaeth a chymorth ar ôl i chi gael eich rhyddhau.

Cael eich cadw mewn carchar i'r ifanc

Y Gorchymyn Cadw dan Glo a Hyfforddi yw'r brif ddedfryd garcharu ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 ac 17 oed.

Dedfryd mewn dwy ran yw'r Gorchymyn hwn, sy'n cael ei dreulio'n rhannol dan glo ac yn rhannol dan oruchwyliaeth yn y gymuned, gyda phwyslais cryf ar hyfforddi ac ailsefydlu.

Ni all fod yn llai na phedwar mis nac yn fwy na dwy flynedd. Mae'n bosib rhyddhau pobl fis neu ddau fis yn gynnar, a dibynnu ar hyd y ddedfryd.

Os bydd rhywun yn cael ei ryddhau'n fuan, defnyddir tag electronig i'w monitro. Mae hyn yn golygu bod tîm troseddau ieuenctid yn gallu helpu unrhyw un sydd â phroblemau wrth ddychwelyd i'w cymuned.

Dim ond dan yr amodau hyn y caiff llys roi Gorchymyn Cadw dan Glo a Hyfforddi i rywun:

  • os yw'r trosedd yn un sy'n dwyn cosb o garchar yn achos person 21 oed a throsodd, a
  • os yw'r llys yn penderfynu mai dim ond dedfryd o garchar sy'n adlewyrchu difrifoldeb y trosedd; a
  • os yw'r person yn 12-15 pan geir ef/hi yn euog, a'i fod/bod yn droseddwr mynych

Mae'n bosib cadw pobl ifanc dan 18 oed a geir yn euog o'r troseddau mwyaf difrifol, megis llofruddiaeth ac ymosodiadau difrifol, yn gaeth am gyfnod hwy.

Mathau o ganolfannau caethiwo

Mae tri math o ganolfan y gallech gael eich anfon iddyn nhw i dreulio dedfryd dan glo:

  • sefydliad troseddwyr ifanc
  • canolfan gaethiwo sy'n darparu hyfforddiant
  • cartref caethiwo i blant dan yr awdurdod lleol

Bydd eich oedran, eich rhyw, eich anghenion fel unigolyn a'ch cyfeiriad cartref yn dylanwadu ar ba ganolfan a ddewisir ar eich cyfer.

Os ydych chi dan 15 oed neu'n iau, chewch chi ddim eich cadw mewn sefydliad troseddwyr ifanc.

Sefydliadau troseddwyr ifanc (STI)

Y Gwasanaeth Carchardai sy'n rhedeg sefydliadau troseddwyr ifanc. Cedwir bechgyn 15 - 17 oed mewn adeiladau i bobl ifanc yn unig, neu ar safleoedd a rennir gyda STI i bobl 18-20 oed, ond sydd ar wahân iddynt.

Cedwir merched sy'n droseddwyr ifanc mewn unedau hunan-gynhwysol i ferched sy'n gysylltiedig â sefydliadau i ferched ac maen nhw'n gweithredu fel STI.

Mae'n bosib y caiff rhai merched dan 18 oed a gaiff eu carcharu eu rhoi mewn adran i bobl ifanc mewn carchar i fenywod sy'n oedolion dan amgylchiadau eithriadol megis am resymau sy'n ymwneud â gofal plant neu resymau meddygol.

Bydd troseddwyr yn derbyn hyd at 25 awr o addysg yr wythnos, sy'n cynnwys cyrsiau a rhaglenni sy'n ystyried gwella ymddygiad.

Canolfannau Caethiwo sy'n darparu hyfforddiant

Mae'r canolfannau hyn yn darparu llety caeth i droseddwyr hyd at 17 oed. Maen nhw fel arfer yn llai na sefydliadau troseddwyr ifanc ac maen nhw'n cynnig addysg a hyfforddiant galwedigaethol, yn ogystal â chanolbwyntio ar ymddygiad rhywun

Bydd pobl ifanc yn y Canolfannau hyn yn cael hyd at 30 awr o addysg bob wythnos, sy'n rhoi'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i  roi'r gorau i droseddu ar ôl gadael y ganolfan.

Cartrefi caethiwo i blant

Yr awdurdodau lleol sy'n rhedeg y cartrefi hyn ac maen nhw'n darparu ar gyfer y troseddwyr ifanc mwyaf bregus. Mae gan y rhain broblemau sydd wedi cyfrannu at eu hymddygiad troseddol. Mae'n bosib eu bod wedi bod mewn gofal neu fod ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl.

Bydd y bobl ifanc mewn cartrefi caethiwo i blant gan amlaf yn iau na'r rheiny yn y canolfannau hyfforddi neu'r sefydliadau troseddwyr ifanc.

Sut le fydd yno?

Pa ganolfan bynnag y byddwch chi'n gorfod mynd iddo, bydd y pwyslais ar ailsefydlu a hyfforddi, yn hytrach na dim ond cael eich caethiwo.

Byddwch yn treulio'ch amser yn mynd i ddosbarthiadau a sesiynau a fydd yn eich helpu i ddysgu'r sgiliau i gael swydd neu'r ffydd i ddychwelyd i fyd addysg ar ôl i chi adael. Neilltuir amser hefyd ar gyfer chwaraeon a hyfforddiant ffitrwydd, yn ogystal â gweithgareddau hamdden eraill a fydd yn rhoi cyfle i chi feithrin sgiliau i'w defnyddio yn y dyfodol.

Er bod canolfannau'n cynnig cyfle i droseddwyr ifanc droi dalen newydd, mae'n bosib y bydd rhai'n cael eu cyfnod dan glo'n brofiad anodd a phoenus iawn.

Mae gan y canolfannau reolau llym iawn am beth y cewch chi ei wneud a beth na chewch chi mo'i wneud ac mae'n bosib y bydd rhaid i chi siarad am bethau sy'n eich ypsetio chi neu fod rhaid i chi gael cwnsela alcohol a chyffuriau.

Rhagor o wybodaeth

Os byddwch chi'n wynebu dedfryd dan glo, neu yr hoffech chi gael gwybod mwy am gaethiwo pobl ifanc, mae nifer o gyrff a allai roi cyngor i chi.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU