Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dedfrydau cymunedol

Yn aml, delir â mân droseddau drwy roi dedfryd gymunedol i'r troseddwr. Mae'r dedfrydau hyn yn canolbwyntio ar sicrhau na fydd yr unigolyn yn troseddu eto, gan roi cosb addas iddynt ar yr un pryd.

Yr ystod o ddedfrydau

Mae dedfrydu cymunedol yn defnyddio sawl ffordd o gosbi'r rhai hynny sy'n euog o fân droseddau heb orfod eu hanfon i garchar. Bydd hyd y ddedfryd yn dibynnu ar ddifrifoldeb y trosedd.

Gelwir pobl dan 18 oed yn droseddwyr ifanc gan yr heddlu a'r llysoedd. Mae amrywiaeth o ddedfrydau cymunedol ar gael, ac maent i gyd yn canolbwyntio ar sicrhau na fyddant yn troseddu eto.

Ceryddu, rhybuddion a gorchmynion cyfeirio

Os ydych o dan 18 ac yn eich cael yn euog o fân drosedd, mae'n bosib y byddwch yn derbyn cerydd neu rybudd gan yr heddlu. Golyga hyn y caiff nodyn ei ychwanegu at eich cofnod heddlu.

Bydd yr heddlu'n ystyried nifer o ffactorau cyn penderfynu beth fydd eich cosb. Ymhlith y rhain, mae'r canlynol:

  • a ydych wedi derbyn cerydd neu rybudd o'r blaen
  • pa mor ddifrifol oedd y trosedd
  • sawl trosedd yr ydych wedi'i gyflawni

Mae'n debygol y bydd eich Tîm Troseddau Ieuenctid lleol yn cysylltu â chi os byddwch yn derbyn rhybudd neu gerydd terfynol. Byddant yn gweithio gyda chi i geisio datrys pam eich bod yn troseddu ac yna'n meddwl am gynllun gweithredu i'ch helpu i roi'r gorau i wneud hynny eto.

Os mai eich trosedd cyntaf ydyw, mae'n bosib y cewch orchymyn cyfeirio. Bydd y llys yn eich cyfeirio at banel troseddwyr ifanc sy'n cynnwys o leiaf dau wirfoddolwr o'ch cymuned ac aelod o'r Tîm Troseddau Ieuenctid.

Troseddau pellach

Bydd rhywun sydd eisoes wedi derbyn cerydd neu rybudd yn fwy tebygol o gael eu cyhuddo'n ffurfiol na rhywun sy'n cyflawni eu trosedd cyntaf.

Mae'n bosib y byddwch yn derbyn Gorchymyn Cynllun Gweithredu neu Orchymyn Goruchwylio ar gyfer ail neu drydydd trosedd. Bydd y Gorchymyn Cynllun Gweithredu yn para am dri mis a bydd rhaid i chi atgyweirio'r difrod a wnaethoch i'ch ardal, neu wneud gweithgareddau eraill sy'n gysylltiedig â'ch trosedd.

Gall y Gorchymyn Goruchwylio bara hyd at dair blynedd, a golyga y byddwch dan oruchwyliaeth tîm troseddau ieuenctid. Mae'n bosib y bydd amryw o amodau ynghlwm wrth y gorchymyn hwn, megis cyrffyw neu orfod mynychu cyrsiau rheoli dicter a chwnsela.

Troseddwyr difrifol neu droseddwyr parhaus

Os cewch chi eich dyfarnu'n euog o drosedd difrifol, neu nifer fawr o wahanol droseddau dros gyfnod byr o amser, efallai y cewch eich rhoi ar Raglen Goruchwylio a Gwylio Dwys (RhGGD). Math mwy dwys o ailsefydlu yw hyn, ac mae'n bosib y bydd gofyn i chi wisgo tag electronig sy'n monitro ble'r ydych chi a beth rydych chi'n ei wneud.

Bydd angen i chi hefyd dreulio hyd at 25 awr yr wythnos yn gwneud gweithgareddau a fydd yn help i chi ddychwelyd at addysg neu waith.

Pobl ifanc 16 a 17 oed

Ceir hefyd ddwy ddedfryd y gellir eu rhoi i bobl 16 neu 17 oed.

Cosb gymunedol

Rhoddir gorchymyn cosb gymunedol i bobl ifanc 16 neu 17 oed y'u ceir yn euog o droseddau sydd wedi gwneud difrod i'w cymuned leol. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o achosi difrod troseddol i barciau chwarae lleol neu ganolfannau siopa lleol, i fân droseddau.

Os byddwch yn derbyn y gorchymyn hwn, bydd gofyn i chi dreulio rhwng 40 a 240 awr yn gwneud gwaith i'r gymuned heb dâl. Caiff yr union hyd ei bennu gan y barnwr neu'r ynad mewn llys, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb y trosedd. Gall y gwaith gynnwys clirio sbwriel, garddio mewn parciau lleol, neu lanhau graffiti.

Ailsefydlu cymunedol

Rhoddir y gorchymyn ailsefydlu cymunedol hefyd i droseddwyr sy'n 16 neu 17 oed. Mae'n golygu goruchwyliaeth reolaidd gan swyddog prawf neu rywun o Dîm Troseddau Ieuenctid lleol.

Gall y gorchymyn hwn bara am hyd at dair blynedd ac efallai y bydd amodau eraill ynghlwm wrtho. Er enghraifft, efallai y bydd rhaid i chi fynychu sesiynau rheoli dicter a chwnsela, neu ad-dalu eich dyled mewn rhyw ffordd i'r sawl a ddioddefodd o ganlyniad i'ch trosedd.

Cofnodion troseddol

Ni fydd dirwyon, rhybuddion na cheryddon yn ymddangos os bydd rhywun yn gwneud archwiliad cofnod troseddol sylfaenol.

Os byddwch yn cyrraedd diwedd gorchymyn ailsefydlu cymunedol neu orchymyn cosb gymunedol heb gyflawni unrhyw drosedd pellach, daw eich euogfarn i ben ar ôl pum mlynedd, neu ddwy flynedd a hanner os oeddech chi dan 18 oed. Golyga hyn na fydd yn ymddangos mewn archwiliad cofnod troseddol sylfaenol.

Os byddwch yn chwilio am waith a fydd yn golygu gweithio gyda phlant, bydd rhaid i'ch cyflogwr wneud archwiliad mwy manwl o'ch cofnod. Bydd archwiliad cofnod canolradd neu fanwl yn dangos pob euogfarn troseddol a rhybuddion gan yr heddlu, gan gynnwys dirwyon a cheryddon. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i bob cyflogwr benderfynu o hyd a yw manylion eich record yn dal i fod yn berthnasol, a gallant effeithio ar eich cais am y swydd

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU