Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Riportio trosedd

Os ydych chi wedi dioddef trosedd neu'n meddwl eich bod wedi gweld trosedd, dylech ei riportio i'r heddlu ar unwaith. Byddai cadw'r wybodaeth i chi eich hun yn golygu na ellid defnyddio'ch gwybodaeth i atal a rhoi terfyn ar droseddu yn eich cymuned leol.

Ffonio 999

Os ydych chi newydd gael eich mygio, os oes rhywun wedi ymosod arnoch neu os ydych chi newydd weld trosedd yn digwydd, dylech ffonio 999 cyn gynted ag y bo modd.

Ar ôl i chi gael eich cysylltu, bydd un o swyddogion yr heddlu'n gofyn i chi ddisgrifio beth sydd wedi digwydd a dweud ymhle'r ydych chi. Mae'n bosib y byddan nhw'n gofyn i chi hefyd a oes angen dweud wrth unrhyw un o'r gwasanaethau brys eraill, megis y gwasanaeth ambiwlans, am y sefyllfa.

Os yw'n argyfwng a bod angen sylw arnoch ar frys, bydd un o swyddogion yr heddlu'n dod atoch. Os ydych chi wedi dioddef trosedd, byddan nhw'n gallu eich tawelu a'ch helpu gydag unrhyw beth y mae ei angen arnoch.

Galwadau nad ydynt yn rhai brys

Os ydych chi am roi gwybod i'r heddlu am fân droseddau, er enghraifft, os yw'ch ffôn symudol wedi cael ei ddwyn, dylech fynd i'ch gorsaf heddlu leol i'w riportio neu ffonio eich awdurdod heddlu lleol. Mae eu rhif ffôn yn y llyfr ffôn.

Drwy beidio â defnyddio 999 ar gyfer mân ddigwyddiadau, byddwch yn sicrhau bod pobl sy'n wynebu argyfwng go iawn yn gallu cysylltu â'r heddlu yn gyflym ac yn hwylus. Gallwch hefyd eu riportio i'ch awdurdod lleol ar-lein.

Mae mân-droseddau'n cynnwys riportio fandaliaeth, graffiti, ceir sydd wedi'u gadael ac enghreifftiau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Rhoi datganiad

Os byddwch chi'n riportio argyfwng neu ddigwyddiad o fath arall, mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi roi datganiad i'r heddlu. Bydd yn rhaid i chi ddweud wrthynt beth ddigwyddodd i chi neu beth welsoch chi. Wrth i chi ddweud yr hanes, maen bosib y byddan nhw'n gofyn cwestiynau i chi neu'n gofyn i chi ailadrodd eich hun i sicrhau bod y datganiad mor gywir ac mor fanwl ag y bo modd.

Pan fyddwch wedi gorffen rhoi datganiad, bydd yr heddlu fel arfer yn ei ddarllen i chi er mwyn sicrhau bod yr hyn sydd wedi'i ysgrifennu ganddyn nhw yn cyfateb i'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud. Os byddwch chi'n cytuno, byddwch yn llofnodi'r datganiad ac yn cael cyfeirnod y trosedd. Rhaid i chi gadw hwn rhag ofn y bydd arnoch eisiau cysylltu â'r heddlu am yr un digwyddiad yn y dyfodol.

Os byddwch chi'n riportio achos o ddwyn, bydd angen i chi ddefnyddio'r cyfeirnod hwn hefyd os byddwch chi'n hawlio ar eich yswiriant.

Taclo'r Taclau

Weithiau, mae'n bosib y byddwch wedi gweld trosedd yn digwydd ac wedi adnabod y bobl sy'n gyfrifol neu efallai bod gennych chi wybodaeth ond nad ydych chi am fynd at yr heddlu eich hun.

Os ydych chi'n nerfus am beth allai ddigwydd petai pobl yn cael gwybod eich bod wedi cysylltu â'r heddlu a chithau'n dymuno aros yn ddienw, gallwch ffonio Taclo'r Taclau. Cofnodir eich gwybodaeth gan atebwr sydd wedi'i hyfforddi ac fe drosglwyddir y wybodaeth i'r heddlu.

Os byddwch chi'n rhoi gwybodaeth i Taclo'r Taclau, ni ddilynir trywydd eich galwad o gwbl, ac ni fydd yn rhaid i chi roi gwybodaeth yn y llys na rhoi datganiad llawn, waeth pa mor ddefnyddiol fyddai hynny.

Gallwch ffonio Taclo'r Taclau unrhyw bryd ar 0800 555 111.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU