Os ydych chi wedi bod yn cynilo neu'n gweithio'n galed i brynu rhywbeth, fe fyddwch chi am sicrhau nad oes neb arall yn cael eu dwylo arno. Drwy gymryd ychydig o gamau syml, fe allwch chi gadw'ch eiddo'n ddiogel.
Os ydych chi'n dal i fyw gartref neu os ydych chi yn y brifysgol, mae'n debyg y bydd gennych chi dipyn o stwff yn eich llofft. Os bydd rhywun yn torri i mewn, dydy cyfrifiaduron, stereos a setiau teledu ddim yn bethau rhad i'w prynu o'r newydd, felly mae'n bwysig cadw'ch eiddo'n ddiogel.
Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw yswirio'ch hun rhag lladrad. Os ydych chi'n byw gartref, bydd polisi yswiriant eich rhieni'n eich gwarchod, ond os ydych chi'n byw oddi cartref, bydd rhaid i chi godi eich yswiriant eich hun. Yn aml iawn, bydd gan gwmnïau yswiriant fargeinion arbennig i fyfyrwyr, felly holwch o gwmpas am y cynnig forau.
Os byddwch chi'n mynd allan ac nad oes neb arall o gwmpas, cofiwch gau a chloi pob ffenestr a drws. Mae'n swnio'n beth amlwg i'w wneud, ond mae'n demtasiwn peidio â thrafferthu os mai dim ond am ychydig o funudau rydych chi'n picio allan.
Os ydych chi yn y brifysgol, mae'n syniad da mynd â'ch holl eiddo gwerthfawr adre dros y gwyliau. Mae tai myfyrwyr a neuaddau preswyl yn fwy tebygol o gael eu targedu y tu allan i'r tymor, gan fod troseddwyr yn gwybod bod y lle'n debygol o fod yn wag. Mae gorfod symud eich cyfrifiadur o hyd yn gallu bod yn boen, ond dyna'r ffordd orau o'i gadw'n ddiogel.
Bydd marcio'ch eiddo gyda'ch cod post yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y cewch chi'ch pethau yn ôl os digwydd iddyn nhw gael eu dwyn. Un ffordd o wneud hyn yw defnyddio marciwr uwch-fioled (UV). Fydd y marc ddim i'w weld oni bai eich bod yn taflu golau UV drosto. Gallwch brynu pen fel hyn yn y rhan fwyaf o siopau caledwedd a dydyn nhw ddim yn ddrud. Neu, mae'n bosib y bydd eich heddlu lleol yn cynnal diwrnod yn eich ysgol, eich coleg neu'ch prifysgol lle byddan nhw'n cynnig marcio'ch eiddo am ddim.
Pan fyddwch chi allan, mae ambell beth y dylech chi ei gofio er mwyn cadw'ch eiddo'n fwy diogel rhag lladron.
Mae'n haws o lawer o rywun ddwyn eich waled neu'ch pwrs o boced gefn, felly, mae'n well ei gario mewn poced flaen. Pan fydd angen i chi dalu am rywbeth neu ddefnyddio peiriant twll-yn-wal, peidiwch â thynnu'ch waled allan heb fod angen, a pheidiwch a dangos eich cerdyn i'r byd a'r betws. Os gwnewch chi hynny, bydd troseddwyr yn gwybod ei fod yn rhywbeth gwerth ei ddwyn.
Os ydych chi'n cario bag, ceisiwch sicrhau ei fod y tu blaen i chi gyda'ch llaw dros y darn sy'n cau. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i chi wybod a oes rhywun yn ceisio'i fachu.
Yn olaf, os ydych chi'n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth pan fyddwch chi allan, cofiwch gadw'ch MP3 neu'ch chwaraeydd CD personol mewn poced fewnol a chadw gwifrau'ch clustffonau wedi'u cuddio dan eich dillad.
Dylech warchod eich beic yn yr un modd ag y byddech chi'n gwarchod car - rhowch glo arno bob tro wrth ei adael.
Dylech brynu clo cryf a dibynadwy i'w ddefnyddio i roi eich beic yn sownd wrth ffens, neu fe allwch dynnu olwyn bob tro y byddwch yn ei barcio. Gallwch hefyd farcio ffrâm eich beic gyda marciwr uwch-fioled.
Er mwyn ei gwneud hi'n haws i chi gael eich beic yn ôl os caiff ei ddwyn, dylech ei farcio mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n glir mai chi yw'r perchennog, neu gofynnwch i'r heddlu am ffurflen cofnodi beiciau. Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, bydd y manylion yn cael eu hychwanegu at gronfa ddata genedlaethol sy'n help i sicrhau bod beiciau sydd wedi'u dwyn yn cael eu dychwelyd i'w perchnogion.