Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwarchod eich ffôn symudol

Os ydych chi yn eich arddegau, rydych chi'n fwy tebygol o gael rhywun yn dwyn eich ffôn symudol nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae cael dwyn eich ffôn yn boen - nid dim ond y ffôn ei hun fyddwch chi'n ei golli ond y rhifau, y negeseuon a'r ffeiliau rydych chi wedi'u llwytho hefyd, felly mae gwybod sut i'w gadw'n ddiogel yn bwysicach nag erioed.

Cario'ch ffôn o fan i fan

Os nad ydych chi wrthi'n ffonio rhywun, gwnewch yn siwr eich bod yn cadw'ch ffôn o'r golwg. Cadwch ef yn un o'ch pocedi blaen, neu mewn bag. Peidiwch â'i roi'n sownd wrth eich belt neu o gwmpas eich gwddf. Bydd lladron yn manteisio ar gyfleoedd sy'n codi - peidiwch â'ch gwneud eich hun yn darged hawdd.

Bydd llawer o bobl yn tynnu eu ffôn o'u poced wrth eistedd i lawr. Os byddwch chi allan gyda'ch ffrindiau neu yn yr ysgol, peidiwch â gadael eich ffôn ar fwrdd. Fe all unrhyw un sy'n cerdded heibio'i fachu a rhedeg i ffwrdd yn rhwydd.

Edrychwch o'ch cwmpas

Os ydych chi'n defnyddio'ch ffôn mewn man cyhoeddus, cadwch olwg ar beth sy'n mynd ymlaen o'ch cwmpas. Bydd lladron yn fodlon gwneud rhywbeth bron i gael eu dwylo ar y modelau diweddaraf, felly cadwch o gwmpas eich pethau.

Dylech hefyd geisio osgoi defnyddio'ch ffôn mewn man cyhoeddus gyda'r nos. Os oes rhaid i chi ddefnyddio'ch ffôn, ceisiwch ddod o hyd i ardal sydd wedi'i goleuo'n dda ac os oes modd, ceisiwch osgoi tynnu'ch ffôn allan mewn gorsaf drenau neu arosfan bysiau. Mae lladron yn targedu'r mannau hyn.

Diogelu eich ffôn

Mae bob amser yn syniad da cadw cofnod o wneuthuriad a model eich ffôn, yn ogystal â rhif unigryw'r teclyn ei hun (rhif IMEI) Mae'r rhif hwn i'w weld y tu ôl i'r bateri, neu drwy ffonio *#06#'. Cadwch y manylion hyn mewn man diogel ac ar wahân yn llwyr i'ch ffôn gan y bydd rhaid i chi eu rhoi i'ch darparwr gwasanaeth os byddwch chi'n colli'ch ffôn neu os caiff ei ddwyn.

Beth bynnag yw model eich ffôn, bydd ganddo nodweddion diogelwch yn rhan ohono ac fe allwch ddefnyddio'r rhain i'w ddiogelu. Os nad ydych chi'n gwybod sut i'w defnyddio, edrychwch ar lawlyfr cyfarwyddiadau eich ffôn.

Er enghraifft, gallwch roi rhif pin ynddo ac yna, rhaid teipio'r rhif hwn cyn y gallwch chi ffonio. Bydd hyn yn golygu na all neb arall ddefnyddio'ch ffôn a bydd yn gwarchod unrhyw fanylion personol sydd gennych yn eich llyfr ffôn neu yn eich blwch derbyn negeseuon.

Cofrestru, Hysbysu, Dychwelyd

Cofrestru

Gallwch gofrestru manylion eich ffôn hefyd gyda'r Gofrestr Ffonau Symudol Genedlaethol. Bydd hyn yn help i'r heddlu ddychwelyd eich ffôn i chi os caiff ei ddwyn. Dylech hefyd gofrestru manylion eich ffôn gyda darparwr eich rhwydwaith.

Hysbysu

Os byddwch chi'n colli'ch ffôn neu os caiff ei ddwyn fe ddylech roi gwybod ar unwaith i'r heddlu.

Dylech hefyd gysylltu â darparwr eich rhwydwaith. Pan gewch chi ateb, dywedwch wrthyn nhw fod eich ffôn wedi'i ddwyn a byddan nhw'n gallu blocio'r ffôn ei hun a'r cerdyn SIM fel na fydd neb yn gallu eu defnyddio rhagor.

Dychwelyd

Mae'r heddlu'n cau'r rhwyd am ladron ffonau symudol. Mae hyn yn golygu eu bod yn fwy tebygol o gael eich ffôn yn ôl os caiff ei ddwyn. Os gwnânt hynny, a chithau wedi cofrestru'ch ffôn, gall yr heddlu gael eich ffôn yn ôl i chi.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU