Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Gall rhai mathau o ymddygiad wneud drwg i ardal ac effeithio ar y bobl sy'n byw yno. Mae'n bosib eich bod yn dioddef oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu eich bod yn awyddus i wybod sut mae'r gyfraith yn effeithio arnoch.

Beth ydy ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw'r term cyffredin a ddefnyddir i ddisgrifio digwyddiadau neu weithredoedd sy'n peri difrod neu sy'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl mewn cymuned. Gall y rhain gynnwys fandaliaeth, graffiti, bygwth a chymdogion sy'n niwsans. Yn ddiweddar, rhoddwyd pwerau newydd i'r heddlu, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i geisio mynd i'r afael â'r broblem hon a gwneud cymdogaethau'n fwy diogel.

Nid bwriad y pwerau hyn yw eich atal chi rhag hel gyda'ch ffrindiau mewn mannau cyhoeddus na rheoli'r math o ddillad y byddwch chi'n eu gwisgo. Fe'u defnyddir i atal ymddygiad sarhaus a bygythiol ac i sicrhau bod eich cymdogaeth chi'n lle diogel i fod.

Contractau ymddygiad derbyniol

Os oes gan yr heddlu neu awdurdod lleol dystiolaeth fod ymddygiad rhywun yn peri problemau i'r gymuned, gallan nhw ofyn i'r person lofnodi contract ymddygiad derbyniol. Gellir rhoi Contractau fel hyn i unrhyw un, waeth faint yw eu hoed.

Contract ysgrifenedig gwirfoddol yw ABC, sy'n golygu nad y llysoedd sy'n ei roi ac na fydd yn cael ei gofnodi ar gofnod troseddol. Mae'n rhestru nifer o bethau na chaiff neb eu gwneud rhagor, megis loetran mewn mannau penodol gyda phobl benodol.

Drwy lofnodi'r cytundeb, mae'r person yn cytuno i roi'r gorau i'r ymddygiad niweidiol a dilyn unrhyw ofynion eraill yn y contract. Mae'n bosib y bydd rhaid iddynt fynychu'r ysgol neu'r coleg yn fwy rheolaidd neu fynychu sesiynau cwnsela.

Caiff y cytundeb ei lofnodi hefyd gan y sefydliad lleol sy'n dymuno atal yr ymddygiad. Gallai hynny olygu'r heddlu, yr awdurdod lleol neu dîm troseddau'r ifanc. Os yw'r contract gyda rhywun dan 18 oed, bydd eu rhiant neu eu gofalwr yn ei lofnodi hefyd.

Fel arfer, bydd Contractau fel hyn yn para am chwe mis ac fe gaiff y person dan sylw ei fonitro gan y sefydliad lleol sydd wedi llofnodi'r contract er mwyn sicrhau nad yw'r cytundeb yn cael ei dorri. Os bydd rhywun yn torri cytundeb, bydd y sefydliad yn penderfynu pa gamau i'w cymryd. Gallai hyn olygu ymestyn y contract, defnyddio gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBO) neu gamau eraill, gan ddibynnu ar sut y torrwyd y contract.

Gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBOs)

Os bydd rhywun wedi cyflawni nifer o droseddau gwrthgymdeithasol, mae'n bosib y rhoddir gorchymyn ymddygiad gwrth-gymdeithasol (ASBO) iddyn nhw. Mae'n bosib rhoi gorchymyn i unrhyw un dros ddeg oed.

Gorchmynion llys yw ASBOs. Maen nhw'n gallu atal troseddwr rhag mynd i ardal arbennig neu dreulio amser gyda phobl benodol. Gall nifer o sefydliadau wneud cais am un, gan gynnwys yr heddlu, awdurdod lleol a Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Mae ASBOs wedi'u cynllunio i warchod aelodau'r cyhoedd rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn hytrach na chosbi'r troseddwr, ac i atal ymddygiad tebyg yn y dyfodol.

Os rhoddir ASBO, bydd fel arfer yn para am ddwy flynedd o leiaf. Fodd bynnag, adolygir y gorchymyn yn rheolaidd. Mae hyn yn golygu os bydd ymddygiad rhywun yn gwella, yna mae'n bosib y bydd rhai o amodau'r ASBO'n cael eu dileu neu'n cael eu newid.

Os rhoddir ASBO i chi, chewch chi ddim cofnod troseddol oni bai bod llys yn eich cael yn euog o dorri'r gorchymyn.

Torri amodau gorchymyn

Os bydd rhywun yn torri amodau gorchymyn gwrthgymdeithasol, byddan nhw'n cyflawni trosedd. Gellir eu harestio a bydd yr achos yn cael ei wrando yn y llys. Os bydd y llys yn cael y person yn euog, bydd y gosb yn dibynnu ar ei oedran a pha mor ddifrifol oedd y trosedd.

Gellir rhoi cyfnod dan glo, dedfryd gymunedol neu ddirwy i bobl sy'n torri amodau eu ASBO, ac a geir yn euog.

Hysbysiadau gwasgaru

Ffordd arall o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yw defnyddio gorchmynion gwasgaru. Gall prif swyddog yn yr heddlu osod cyfyngiadau ar ardaloedd penodol sydd wedi'u dynodi'n ardaloedd lle mae llawer iawn o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Unwaith y bydd ardal yn troi'n barth gwasgaru, bydd gan yr heddlu a swyddogion diogelwch cymunedol y grym i orchymyn grwpiau o bobl i adael ardal ar ôl cyfnod penodol os ydynt yn amau bod ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi digwydd neu'n bosib o ddigwydd, ac fe allan nhw wahardd pobl o'r ardal am hyd at 24 awr.  Gall swyddog yr heddlu ofyn hefyd i unrhyw dan 16 oed ddychwelyd adref ar ôl 9pm ond ni all orfodi iddynt wneud hynny, ond mae gwrthodiad yn drosedd.

Fodd bynnag, go brin y bydd hyn yn effeithio arnoch os ydych yn digwydd mynd drwy ardal wasgaru ar eich ffordd adref, neu os bydd yr heddlu'n teimlo nad ydych chi'n debygol o achosi trafferth.

Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol

Os ydych yn pryderu am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal yn gyffredinol neu fod gennych broblem benodol, cysylltwch â'ch awdurdod lleol a gofyn am gael siarad â'r cydlynydd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ffoniwch eich heddlu lleol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU