Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyffuriau a throseddu

Mae'n bosib eich bod chi'n meddwl mai dim ond rhywun sy'n cael ei ddal yn gwerthu cyffuriau y bydd yr heddlu'n ei arestio. Ond fe all defnyddio cyffuriau at eich defnydd personol hyd yn oed arwain at ddirwy fawr neu gyfnod yn y carchar.

Dosbarthiadau o gyffuriau

Bydd pob cyffur yn cael ei ddosbarthu i un o dri chategori, yn ôl pa mor beryglus ydyn nhw:

  • Cyffuriau sy'n cael yr effaith fwyaf niweidiol yw cyffuriau Dosbarth A -   mae'r cyffuriau hyn yn cynnwys heroin, cocên, ecstasi ac LSD
  • Mae Cyffuriau Dosbarth B yn llai peryglus na rhai Dosbarth A, ond maen nhw'n dal i fod yn beryglus os cân nhw'u camddefnyddio - mae cyffuriau Dosbarth B yn cynnwys sbîd ac amffetaminau eraill
  • Mae cyffuriau Dosbarth C yn llai peryglus i'r defnyddiwr na chyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B. Wedi dweud hynny, maen nhw'n dal i fod yn anghyfreithlon ac fe allan nhw fod yn niweidiol. Mae cyffuriau Dosbarth C yn cynnwys canabis, GHB a rhai tawelyddion

Bod â chyffuriau yn eich meddiant

Os cewch chi'ch dal â chyffuriau yn eich bag neu yn eich poced, mae'n bosib y cewch chi'ch cyhuddo o fod â sylwedd anghyfreithlon yn eich meddiant, a hynny os mai chi biau'r stwff ai peidio. Os ydych chi dan 17 oed, mae gan yr heddlu yr hawl i roi gwybod i'ch rhiant neu'ch gofalwr eich bod wedi cael eich dal.

Os ydych chi wedi cael eich dal â chyffuriau yn eich meddiant, mae'n hynod debygol y cewch chi'ch arestio ac y bydd y cyffuriau'n cael eu cymryd oddi arnoch. Bydd y gosb gewch chi'n dibynnu ar ba fath o gyffur y mae'r heddlu wedi dod o hyd iddo a'ch hanes personol.

Os ydyn nhw'n dod o hyd i gyffur Dosbarth C arnoch chi a chithau heb hanes troseddol, fe gewch chi rybudd ffurfiol neu rybuddiad gan yr heddlu fan leiaf. Os byddan nhw'n dod o hyd i gyffur dosbarth A neu B arnoch chi, neu os oes gennych hanes o droseddau gyda chyffuriau, rydych yn debygol o wynebu cosb lymach o lawer.

Dyma'r dedfrydau mwyaf posibl ar gyfer bod â chyffuriau'r gwahanol yn eich meddiant:

  • hyd at saith mlynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth A
  • hyd at bum mlynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth B
  • hyd at ddwy flynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth C

Fe all y dedfrydau hyn fod yn fwy o lawer os ydych chi'n delio mewn cyffuriau neu'n eu gwerthu - hyd yn oed os mai dim ond i ffrindiau y byddwch chi'n eu rhoi neu hyd yn oed os nad oes arian yn newid dwylo.

Bwriad o gyflenwi a delio

Mae'r cosbau ar gyfer cyflenwi cyffuriau'n llymach o lawer. Dylech gofio hefyd nad dim ond i ddelwyr y mae cyflenwi cyffuriau'n berthnasol. Os bydd yr heddlu'n meddwl eich bod yn bwriadu rhannu cyffuriau gyda'ch ffrindiau, mae hynny'n dal i gael i ystyried yn gyflenwi.

Mae'r heddlu'n fwy tebygol o'ch cyhuddo os ydyn nhw'n amau eich bod yn bwriadu cyflenwi cyffuriau, ond byddan nhw'n dal i ystyried faint o gyffuriau oedd gennych arnoch, a'ch hanes troseddu.

Y dedfrydau mwyaf ar gyfer bwriad o gyflenwi cyffuriau yw:

  • hyd at oes yn y carchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth A
  • hyd at 14 mlynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth B
  • hyd at 5 mlynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn (neu'r ddau) ar gyfer cyffur Dosbarth C

Ydy canabis yn dal i fod yn anghyfreithlon?

Cafodd canabis ei israddio o fod yn gyffur Dosbarth B i fod yn Gyffur Dosbarth C ym mis Ionawr 2004. Er gwaetha'r israddio, mae canabis yn dal i fod yn anghyfreithlon. Mae'r ddedfryd fwyaf ar gyfer bod â chanabis yn eich meddiant yn dal i fod yr un fath ag ar gyfer cyffuriau Dosbarth C eraill, ond mae'r ddedfryd fwyaf o garchar ar gyfer ei gyflenwi'n dal i fod yn 14 mlynedd - yr un fath â chyffuriau Dosbarth B eraill.

Cyfyngiadau eraill

Er nad ydyn nhw'n anghyfreithlon, mae cyfyngiadau ar werthu sylweddau eraill a all fod yn niweidiol os cân nhw'u camddefnyddio:

  • mae yn erbyn y gyfraith i siop werthu toddyddion, petrol llenwi taniwr sigarets a rhai mathau o lud i bobl dan 18 os ydyn nhw'n credu y byddwch chi'n eu defnyddio fel cyffur
  • os ydych chi dan 16 oed , chewch chi ddim prynu alcohol, sigarets, sigarau na thybaco.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU