Gall unrhyw ddioddef trais neu ymosodiad rhywiol, waeth faint yw eu hoed ac mae'n gallu digwydd i ddyn neu fenyw.
Trais rhywiol yw pan fydd rhywun yn gorfodi person arall i gael rhyw yn erbyn eu hewyllys. Er mai merched yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef o drais, mae llawer o achosion hefyd lle bo dynion yn dioddef. Mae ymosodiad rhywiol yn golygu unrhyw fath o gyswllt ac ymddygiad rhywiol annerbyniol.
Yn aml iawn, bydd y trais yn cael ei gyflawni gan rywun y mae'r dioddefwr yn ei 'nabod. Mae hynny'n cynnwys aelodau o'u teulu neu rywun y maen nhw'n ei 'nabod yn gymdeithasol. Gallwch hefyd gael eich treisio neu'ch ymosod arnoch yn rhywiol gan rywun rydych mewn perthynas â nhw, neu gan rywun nad ydych erioed wedi'u cyfarfod o'r blaen.
Nid dim ond trosedd sy'n effeithio ar oedolion yw hwn. Gall pobl yn eu harddegau a phobl ifanc ddioddef ohono hefyd. Pan fydd dioddefwr dan 18 oed, cyfeirir ar drais yn aml fel cam-drin plant.
Gall trais rhywiol ddigwydd pan roddir cyffuriau i rywun heb iddyn nhw wybod fel eu bod yn mynd yn ddryslyd ac nad ydynt yn gwybod beth sy'n digwydd iddyn nhw.
Gall y cyffuriau gael eu hychwanegu at ddiod neu at fwyd yn hawdd iawn heb i'r dioddefwr sylwi, sy'n golygu ei fod wedi'i 'sbeicio'. Mae' r cyffuriau'n gallu effeithio ar y cof, fel na all y dioddefwr gofio'n union beth ddigwyddodd.
Er mwyn cadw'n ddiogel pan fyddwch allan, peidiwch byth â derbyn diod gan rywun nad ydych erioed wedi'u cyfarfod o'r blaen. Ewch â'ch diod gyda chi os byddwch chi'n mynd i'r toiled neu i ddefnyddio'r ffôn; peidiwch â'i adael heb neb yn gofalu amdano.
Yr unig sefydliad yn y wlad sy'n arbenigo ar helpu dioddefwyr trais ac ymosodiad rhywiol dan ddylanwad cyffuriau yw'r Roofie Foundation. Mae ganddyn nhw linell gymorth 24 awr ac maen nhw'n darparu cyngor call am sut i gadw'n ddiogel.
Os ydych wedi cael eich treisio'n rhywiol neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol, dylech ddweud wrth yr heddlu cyn gynted ag y bo modd. Os ydych chi dan 17 oed, bydd Uned Amddiffyn Plant eich heddlu lleol yn ymdrin â'ch achos.
Cewch ofyn am gael siarad â swyddog sydd o'r un rhyw â chi os yw hynny'n fwy cyfforddus i chi. Byddan nhw'n brofiadol o ran delio â dioddefwyr ymosodiadau rhywiol ac yn deall y trallod a'r ofn y gallech fod yn eu hwynebu.
Mae'n bosib y gofynnir i chi roi'r eitemau o ddillad yr oeddech yn eu gwisgo pan ymosodwyd arnoch i'r heddlu, oherwydd efallai eu bod yn cynnwys olion tystiolaeth a allai fod o help iddyn nhw adnabod y person a oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.
Bydd yr heddlu hefyd yn trefnu i chi gael archwiliad meddygol os dymunwch. Bydd y meddyg yn trin unrhyw anafiadau sydd gennych a hefyd yn casglu unrhyw dystiolaeth a allai helpu'r heddlu gyda'u hymchwiliad. Bydd y meddyg yn siarad â chi am yr archwiliad ymlaen llaw, er mwyn i chi ddeall beth maen nhw'n ei wneud a pham.
Mae'n bosib y bydd yr heddlu am gael sgwrs â chi eto pan fyddan nhw'n ymchwilio i'r trosedd. Byddan nhw'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau yn yr ymchwiliad ac yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi fynd i'r llys.'
Gall dioddef trais neu ymosodiad rhywiol eich gadael yn teimlo'n ofnus, yn ddryslyd ac yn llawn trallod. Os ydych wedi riportio'r trosedd ai peidio, bydd Cymorth i Ddioddefwyr yn gallu'ch helpu i ddeall yr emosiynau rydych chi o bosib yn eu profi.
Mae'n bosib hefyd y byddwch chi'n ei chael hi'n fuddiol siarad â sefydliad sy'n arbenigo mewn helpu pobl sydd wedi dioddef trais neu ymosodiad rhywiol. Mae sefydliadau ar gael sy'n ymroddedig i helpu grwpiau penodol o ddioddefwyr - er enghraifft, dynion sy'n dioddef o drais rhywiol.