Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Copïo ffilmiau a cherddoriaeth a'u gwerthu'n anghyfreithlon

Nid dim ond DVDs amheus sy'n dod o dan y categori hwn. Er y gall llwytho caneuon oddi ar y we fod yn ffordd wych newydd o brynu eich cerddoriaeth, os ydych chi'n eu cael am ddim, rydych chi'n troseddu.

Beth yw copïo a dwyn?

Mae copïo a gwerthu DVDs a CDs yn anghyfreithlon yn drosedd. Mae llawer o bobl yn ei ystyried yn drosedd nad yw'n bwysig iawn oherwydd nad oes neb yn cael ei frifo, ond dydy hynny ddim yn wir. Mae arian sy'n cael ei gynhyrchu fel hyn yn cael ei ddefnyddio gan gangiau o droseddwyr i ariannu gwerthu cyffuriau a gynau.

Os byddwch chi'n prynu copi anghyfreithlon, fel arfer, mae ansawdd y recordiad yn wael iawn. Os mai DVD yw'r copi, bydd y llun yn raenog neu'n troi'n ddu a gwyn mewn mannau, a bydd safon y sain yn aml yn aneglur ac yn ddistaw iawn. Fyddwch chi ddim yn cael derbynneb, felly os nad yw'r peth yn gweithio, chewch chi ddim ad-daliad a chewch chi ddim ei gyfnewid.

DVDs

Mae'n bosib y dewch chi ar draws copïau anghyfreithlon o DVDs neu CDs mewn marchnadoedd, mewn sêl cist car, neu ar safle arwerthu ar-lein. Byddan nhw'n rhatach na phrisiau'r stryd fawr, ond byddan nhw fel arfer wedi'u recordio ar gamcorder yng nghefn y sinema neu wedi'u llwytho'n anghyfreithlon oddi ar y we.

Weithiau, byddan nhw'n hawdd i'w 'nabod am nad ydyn nhw'n cael eu gwerthu mewn clawr plastig, ond dyma ambell beth arall i chwilio amdano:

  • os yw'r ffilm newydd ei rhyddhau yn y sinema, bydd unrhyw DVD ohoni'n sicr o fod yn anghyfreithlon
  • os yw pecynnu'r DVD'n cynnwys unrhyw ieithoedd tramor, neu os nad yw'r disgrifiad neu restr y cast yn cyfateb i'r ffilm rydych chi'n ei phrynu, mae'n debyg y bydd wedi'i chynhyrchu ar gyfrifiadur rhywun gartref
  • os nad oes tystysgrif ffilm rydych chi'n ei nabod, er enghraifft '15' neu '18' ar glawr y DVD, mae'n debygol o fod yn gopi anghyfreithlon

Llwytho cerddoriaeth yn anghyfreithlon oddi ar y we

Mae llwytho cerddoriaeth yn syth i'ch cyfrifiadur neu i chwaraeydd MP3 erbyn hyn bron yr un mor boblogaidd â phrynu CDs dros y cownter. Mae'n rhatach ac fe allwch chi ddewis talu am bob sesiwn neu dalu ffi safonol bob mis am nifer penodol o draciau.

Mae nifer fawr o wahanol safleoedd erbyn hyn sy'n gadael i chi brynu cerddoriaeth ar-lein neu lwytho’n gyfreithlon yn rhad ac am ddim, ond mae defnyddwyr safleoedd eraill yn torri'r gyfraith drwy ddefnyddio rhwydweithiau rhannu-ffeiliau i rannu cerddoriaeth sydd dan hawlfraint.

Er bod modd defnyddio rhwydweithiau rhannu ffeiliau neu rwydweithiau tebyg at ei debyg (P2P) yn gyfreithlon i rannu lluniau rydych chi wedi'u tynnu, neu ffeiliau cerddoriaeth a fideo rydych chi'ch hun wedi'u cynhyrchu, ddylech chi mo'u defnyddio i lwytho caneuon gan eich hoff artistiaid am ddim, oherwydd bydd hawlfraint ar ganeuon fel hyn.

Os cewch chi'ch dal yn llwytho cerddoriaeth neu ddeunydd fideo'n anghyfreithlon oddi ar y we, mae'n bosib y byddwch chi'n wynebu dirwy sy'n costio miloedd o bunnoedd i chi.

Copïo CDs

Os ydych chi wedi prynu CD, roi benthyg y CD brynoch chi i'ch ffrindiau os ydyn nhw'n awyddus i'w chlywed.

Fodd bynnag, mae'n anghyfreithlon gwneud copïau o CDs a'u rhoi i'ch ffrindiau neu werthu copïau anghyfreithlon o CDs er mwyn gwneud elw.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU