Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 9 Chwefror 2012

Dweud eich dweud am eich hawliau

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhoi nifer o hawliau pwysig i chi ac yn gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed. Rhaid i'r Llywodraeth gydymffurfio â'r hawliau hyn wrth iddynt wneud unrhyw benderfyniadau a fydd yn effeithio arnoch chi neu ar eich bywyd.

Ynghylch y Confensiwn ar Hawliau Plentyn

Lluniodd y Cenhedloedd Unedig y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn i sicrhau bod pawb o dan 18 oed yn cael set o hawliau i'w diogelu.

Mae'r confensiwn yn rhoi dros 40 o hawliau i chi. Mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i’r canlynol:

  • cael cyfle i leisio'ch barn pan fydd penderfyniadau a all effeithio ar eich bywyd yn cael eu gwneud
  • arfer eich crefydd
  • cael eich amddiffyn rhag trais a chamdriniaeth

Cadarnhaodd y Deyrnas Unedig y confensiwn yn 1991, sy'n golygu bod y wlad wedi ymrwymo i sicrhau bod yr hawliau hyn yn cael eu rhoi i bob plentyn a pherson ifanc.

Y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn

Mae'r Cenhedloedd Unedig hefyd wedi sefydlu pwyllgor arbennig i sicrhau bod pob gwlad sydd wedi llofnodi'r Confensiwn yn glynu wrth ei chyfrifoldebau i hyrwyddo eich hawliau.

Fel rhan o'r broses hon, rhaid i bob gwlad anfon adroddiad yn ôl i'r pwyllgor bob pum mlynedd, yn dangos sut mae'r Confensiwn yn cael ei ddefnyddio pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ac yn cyflwyno cyfreithiau sy'n effeithio arnoch chi.

Daw rhan allweddol o'r adroddiad hwn o sylwadau ac adborth a geir gan bobl fel chi ar sut, yn eu barn nhw, y mae eu hawliau'n cael eu parchu yn eu bywydau bob dydd.

Cymryd rhan yn ein harolwg

Mae aelodau'r Cenhedloedd Unedig wedi gofyn i'r Llywodraeth adael iddynt wybod sut mae hawliau pobl ifanc yn cael eu hystyried yn y DU.

I wneud hyn, mae'r Llywodraeth eisiau casglu'ch barn chi am yr hawliau a geir yn y Confensiwn ac a ydych yn meddwl y gellid gwneud mwy i'w hyrwyddo.

Mae'r arolwg yn cwmpasu sawl maes yn cynnwys addysg, iechyd a chyfleusterau hamdden.

Defnyddir eich atebion mewn adroddiad am ymrwymiad y Deyrnas Unedig i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc ac yn y dyfodol bydd yn dylanwadu ar benderfyniadau a wneir a all effeithio ar eich bywyd a'r pethau sy'n bwysig i chi.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU