Dewch o hyd i'r hyn y gall Directgov ei gynnig i chi a chael gweld sut i ddefnyddio'r wefan.
Directgov yw’r wefan i gael gwybodaeth o bob math am y llywodraeth a’i gwasanaethau.
Os oes gennych chi gwestiynau am eich addysg neu os ydych chi am wybod sut i drefnu prawf gyrru, mae'r cyfan ar gael yma. Mae Directgov yn rhoi gwybodaeth ddiduedd i chi am bethau a all effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd.
I fanteisio i'r eithaf ar y wefan, ewch i'r hafan ar gyfer pobl ifanc a dewiswch y categori sy'n fwyaf perthnasol i'r hyn rydych chi am ei wybod. Bydd hyn yn arwain at dudalen arall ble bydd mwy o ddewisiadau i gael y wybodaeth a fydd yn rhoi'r atebion i chi. Os na allwch chi ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, ceisiwch ddefnyddio'r blwch chwilio a theipiwch rai o'r geiriau allweddol i gael y wybodaeth angenrheidiol.
Ddim yn siŵr sut y gall Directgov helpu? Dyma rai enghreifftiau o'r math o wybodaeth sydd ar Directgov.
Cewch wybod am ddysgu gyrru a diogelwch ar y ffordd, yn ogystal â chael gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus.
Os ydych chi'n mynd ar eich gwyliau neu'n bwriadu mynd i deithio, cewch wybod sut i wneud cais am basport a chael rhai awgrymiadau defnyddiol ynghylch sut i baratoi ar gyfer eich taith.
Fe allwch gael gwybodaeth am fynd i goleg neu brifysgol a chanfod sut fath o fywyd y cewch chi yno.
Os ydych chi'n dal i fod yn yr ysgol, fe allwch chi gael gwybod am y cwricwlwm a beth y gallech chi ei astudio yn y dyfodol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y ffordd y mae'r wlad yn gweithio a strwythur y llywodraeth, ceir canllaw ardderchog i'r Deyrnas Unedig a'i rôl yn yr Undeb Ewropeaidd.
Os ydych chi'n chwilio am waith neu ar fin dechrau gweithio, fe allwch chi gael gwybodaeth am eich hawliau i gyd fel cyflogai.
Nid dyna'r cyfan - ewch i hafan Directgov i weld yr holl wybodaeth a'r holl wasanaethau sydd ar gael i chi. Ddim yn siŵr am beth rydych chi'n chwilio? Ewch drwy'r adrannau gwahanol i weld beth sy'n tynnu'ch sylw.
Nid gwybodaeth am y llywodraeth yn unig sydd ar gael. Mae Directgov hefyd yn cynnig dolenni i adrannau eraill a allai roi cymorth pellach i chi am yr hyn rydych chi am ei wybod.
Os ydych chi'n chwilio am ddeunydd sydd wedi'i anelu atoch chi, ewch i'r hafan pobl ifanc i gael gweld beth sydd ar gael.
Os cewch chi drafferth, defnyddiwch yr adran 'Help', sy'n rhoi mwy o gyngor gwerthfawr am ddefnyddio Directgov