Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cerdyn Trên i Bobl Ifanc

Os ydych yn teithio ar drenau'n rheolaidd, neu hyd yn oed yn achlysurol, gallai cerdyn trên i Bobl Ifanc arbed arian i chi. Mae'n hawdd gwneud cais am un, ac mae ychydig o fanteision eraill i gael un hefyd.

Pa mor hen y mae'n rhaid i chi fod?

I wneud cais am gerdyn trên i bobl ifanc, rhaid i chi fod rhwng 16 a 25 oed.

Faint allech chi ei arbed?

Bydd cerdyn trên i Bobl Ifanc yn tynnu traean oddi ar bris y rhan fwyaf o docynnau trên - lle bynnag yr ydych yn y wlad.

Sut i wneud cais

Gallwch brynu Cerdyn Trên i Bobl Ifanc yn y rhan fwyaf o orsafoedd trenau. Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais a'i chyflwyno, ynghyd â math o ddogfen adnabod sy'n profi eich oedran, megis eich pasport, trwydded yrru neu'ch tystysgrif geni. Bydd angen llun maint pasport arnoch hefyd.

Gallwch hefyd brynu cerdyn trên dros y ffôn. Gwnewch yn siŵr bod gennych rhyw fath o ddogfen adnabod yn barod.

Er na allwch wneud cais am gerdyn trên ar-lein, gallwch lwytho ffurflen gais a'i llenwi cyn mynd i'r orsaf, a allai arbed amser i chi.

Oes yna unrhyw amodau?

Os ydych yn bwriadu teithio cyn 10am yn ystod yr wythnos, mae tâl penodol y bydd rhaid i chi ei dalu os ydych am ddefnyddio'ch cerdyn trên i Bobl Ifanc.

Hefyd, dim ond ar gyfer eich taith chi y mae eich cerdyn trên yn cynnig gostyngiad, felly ni fydd modd i chi brynu nifer o docynnau am bris gostyngedig i'ch ffrindiau ac aelodau o'ch teulu.

Dim ond ar gyfer teithiau un ffordd neu ddwy ffordd dosbarth safonol y gellir defnyddio'r cerdyn trên, felly ni fydd modd i chi gael gostyngiad ar docyn tymor nac ar docyn misol.

Faint mae'n ei gostio?

Mae cerdyn trên i bobl ifanc yn costio £20 am flwyddyn. Unwaith y daw oes eich cerdyn i ben, gallwch ei adnewyddu am yr un gost, cyn belled ag y byddwch yn dal i fod rhwng 16 a 25 oed.

Manteision eraill

Gall Cerdyn Trên i Bobl Ifanc gynnig gostyngiadau i chi ar nifer o bethau, fel ffioedd mynediad i atyniadau twristiaid, llawlyfrau a thocynnau i fynychu digwyddiadau. Am fwy o wybodaeth am y gostyngiadau hyn, ac am y Cerdyn Trên i Bobl Ifanc yn gyffredinol, ewch draw i'r wefan.

Gostyngiadau eraill wrth deithio ar drên

Os na fyddwch yn gymwys ar gyfer cerdyn trên i Bobl Ifanc, mae ffyrdd eraill y gallwch arbed arian ar daith drên.

Gostyngiadau grŵp

Mae llawer o gwmnïau trên yn cynnig costau teithio arbennig i bobl sy'n teithio mewn grŵp. Felly os ydych yn cynllunio taith siopa gyda'ch ffrindiau neu benwythnos i ffwrdd, cysylltwch â'r cwmni trên y byddwch yn teithio gyda nhw i weld pa fath o docynnau grŵp y maent yn eu cynnig.

Pris plant

Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau trên hefyd brisiau plant gostyngedig os ydych dan 16 oed. Holwch y cwmni trên y byddwch yn ei ddefnyddio i gael gwybod a ydynt yn cynnig tocynnau rhatach i blant.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU