Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gostyngiadau teithio eraill i bobl ifanc

Os na allwch yrru, yna mae'n debygol eich bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Os ydych yn bwriadu defnyddio bws, trên, neu fws moethus, mae'n syniad da holi i weld pa ostyngiadau sydd ar gael i bobl ifanc.

Teithio ar fws

Er eich bod o bosib yn cael teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol am ddim yn ystod yr wythnos, nid yw hyn yn golygu y cewch deithio ar fws am ddim ar benwythnosau. Ond bydd llawer o gwmnïau bysiau lleol yn codi ffioedd hanner-pris ar bobl ifanc dan 16 oed.

Os ydych chi dan 16 oed, efallai bod modd i chi gael tocyn bws myfyriwr neu berson ifanc, yn dibynnu ar ba gynlluniau y mae'ch cwmni cludiant lleol yn eu rhedeg.

I gael mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yn eich ardal chi, gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol neu'r cwmnïau bysiau yr ydych yn gwybod y byddwch yn eu defnyddio.

Teithio ar fws moethus

Os ydych chi rhwng 16 a 26 oed, ac yn bwriadu teithio ar fws moethus, efallai y gallech arbed arian drwy gael cerdyn NX2 gan National Express.

Mae cerdyn NX2 yn costio £10, ac mae'n tynnu hyd at dri deg y cant oddi ar gostau pob siwrnai ar fws moethus o amgylch y DU sy'n cael eu rhedeg gan National Express, a gallwch wneud cais am un ar-lein.

Mae llawer o gwmnïau bysiau moethus eraill yn rhedeg tripiau a theithiau ar draws y wlad hefyd. I gael gwybod am y gwahanol siwrneiau sydd ar gael, gallwch gynllunio'ch siwrnai ar-lein a phenderfynu pa un yw'r mwyaf cyfleus i chi.

Teithio ar y Tiwb yn Llundain

Os byddwch yn teithio ar y tiwb yn Llundain, mae nifer o ostyngiadau ar gael i bobl ifanc.

Os ydych chi dan 16 oed, gallwch gael tocynnau unffordd a dwyffordd rhad os byddwch yn talu gydag arian parod wrth deithio. I gael tocynnau a chardiau teithio sy'n para am saith niwrnod neu fwy, bydd angen cerdyn llun dan 16 oed Oyster arnoch.

Gallwch gael ffurflen gais am gerdyn llun Dan 16 Oed mewn unrhyw Swyddfa'r Post yn Llundain Fwyaf, neu drwy ffonio 0845 330 9876. Unwaith y bydd eich rhiant neu'ch gwarchodwr wedi'i llofnodi, bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen at Swyddfa'r Post, ynghyd â llun pasport, £5 o ffi weinyddol a math o ddogfen adnabod, fel pasport neu dystysgrif geni.

Os ydych chi'n 16 neu 17 oed, bydd angen cerdyn llun Oyster 16-17 arnoch. Bydd modd i chi gael cardiau teithio am 7 niwrnod neu fwy am bris gostyngedig. Gallwch hefyd arbed arian ar docynnau unffordd drwy ddefnyddio'r system Oyster.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o docynnau tiwb sydd ar gael ar wefan Transport for London.

Mathau eraill o drafnidiaeth leol

Mae llawer o ffyrdd gwahanol eraill o deithio o gwmpas, yn dibynnu ar ble'r ydych yn byw, gan gynnwys:

  • tramiau
  • gwasanaethau fferi a chychod
  • cynlluniau parcio a theithio

Os ydych yn dymuno defnyddio'r gwasanaethau hyn, holwch i weld a ydynt yn cynnig gostyngiadau i bobl ifanc.

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU