Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 9 Chwefror 2012

Cardiau aelodaeth a chardiau disgownt i'w cario

Bydd pobl yn cario mwy na dim ond cardiau banc a chardiau credyd gyda nhw. Dyma ddetholiad o ddim ond rhai o'r cardiau a allai eich helpu i gael arian i ffwrdd oddi ar yr eitemau y byddwch yn eu prynu o ddydd i ddydd.

Cerdyn Connexions

Mae'r cynllun Cerdyn Connexions bellach wedi dod i ben. Os oes gennych unrhyw bwyntiau ar ôl ar eich cerdyn ni fyddwch yn gallu eu cyfnewid am nwyddau.

Efallai y bydd rhai siopau'n dal i roi disgownt i chi os byddwch yn dangos eich cerdyn wrth y til, felly peidiwch â'i daflu ar hyn o bryd. Gallwch hefyd ei ddefnyddio fel cerdyn prawf oedran.

Cerdyn NUS

Does dim rhaid i chi fod yn 18 oed ac yn fyfyriwr mewn prifysgol cyn cael cerdyn Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS). Gallwch hefyd gael un os ydych chi dros 16 oed ac yn mynd i goleg neu goleg chweched dosbarth sydd ag undeb myfyrwyr sy'n gysylltiedig ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.

Ceir tri math o gerdyn NUS, ac mae pob un ohonynt yn cynnig amrywiaeth o wahanol fanteision.

Cerdyn Democratiaeth NUS

Mae Cerdyn Democratiaeth NUS am ddim ac fe'i defnyddir fel cerdyn aelodaeth ar gyfer undeb y myfyrwyr. Bydd yn eich galluogi i fanteisio ar y cyfleusterau a ddarparir ganddynt ac yn eich galluogi i bleidleisio yn etholiadau pwyllgor undeb y myfyrwyr.

Cerdyn NUS Extra

Mae cerdyn NUS Extra yn costio £10, ond gallwch gael arian i ffwrdd ar lawer o bethau hanfodol fel llyfrau a deunyddiau ysgrifennu, yn ogystal â dillad a chostau teithio. Mae hefyd yn gweithredu fel cerdyn adnabod rhyngwladol i fyfyrwyr (ISIC), sy'n golygu a gallwch ei ddefnyddio mewn llawer o wledydd ar draws y byd. Gellir cael y Cerdyn Democratiaeth a'r Cerdyn Extra gan undeb myfyrwyr eich prifysgol.

Cerdyn Aelod Cysylltiol NUS

Os ydych chi'n aros mewn ysgol neu'n mynd i goleg chweched dosbarth sydd heb undeb myfyrwyr er mwyn cario 'mlaen ag addysg bellach, efallai y bydd modd i chi gael Cerdyn Aelod Cysylltiol NUS sy'n cynnig y rhan fwyaf o fanteision a geir gyda cherdyn NUS safonol.

I gael Cerdyn Aelod Cysylltiol NUS, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais - gallwch lwytho hon oddi ar wefan NUS. Unwaith y byddwch wedi llenwi'r ffurflen, dylech ei dychwelyd yn y post gyda llun pasport a ffi o £7.

Cerdyn UCAS

P'un ai'ch bod ar hyn o bryd yn gwneud cais i fynd i brifysgol, neu'ch bod yn fyfyriwr ar gwrs addysg uwch yn barod, mae'n debygol y byddwch yn gallu gwneud cais am gerdyn UCAS.

Gyda cherdyn UCAS, cewch fanteisio ar wahanol gynigion arbennig drwy wefan cerdyn UCAS, yn ogystal â chael llawer o gyngor defnyddiol am broses ymgeisio UCAS, sut mae mynd ati i ddewis prifysgol a sut mae byw ar gyllideb dynn unwaith y byddwch yn cyrraedd yno.

Ewch i wefan cerdyn UCAS i gael y manylion i gyd.

Cardiau profi oedran

Bydd llawer o bobl yn cario cerdyn er mwyn profi eu bod yn ddigon hen i brynu pethau penodol sydd â chyfyngiadau oed arnynt.

Ceir nifer o gynlluniau cardiau profi oedran sy'n ceisio lleihau faint o alcohol, sigaréts a thoddyddion a werthir yn anghyfreithlon i rai dan oed.

Os hoffech gael cerdyn fel hyn, dylech wneud cais am un sy'n defnyddio logo'r Cynllun Safonau Prawf Oedran (PASS), gan mai dyma'r unig gardiau sy'n cael eu cefnogi'n swyddogol gan y llywodraeth.

Pa bynnag gerdyn a ddewiswch, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a chael oedolyn proffesiynol fel athro neu feddyg i'w llofnodi. Chewch chi ddim cael aelod o'ch teulu eich hun i lofnodi'r ffurflen fel hyn.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU